Mae Clwb Criced Morgannwg wedi diswyddo’r prif hyfforddwr Robert Croft.

Daw’r penderfyniad ar ôl i adolygiad allanol annibynnol gael ei gynnal gan Huw Bevan, yr hyfforddwr rygbi a chyn-hyfforddwr ffitrwydd tîm criced Lloegr sy’n dad i chwaraewr yn ail dîm Morgannwg.

Dywedodd Robert Croft ei fod yn “croesawu” yr adolygiad fel “cyfle i roi’r ffeithiau ar y bwrdd” wrth asesu’r tymor.

Cafodd Morgannwg dymor siomedig yn 2018, gan ennill dwy gêm yn unig yn y Bencampwriaeth, a methu â chyrraedd rowndiau ola’r naill gystadleuaeth undydd na’r llall.

Un o ganlyniadau’r adolygiad oedd fod Morgannwg am benodi Cyfarwyddwr Criced newydd ar ôl i swydd Hugh Morris, sydd hefyd yn Brif Weithredwr, gael ei hollti.

Gyrfa

Mae diswyddiad Robert Croft yn dod â chysylltiad o dros dri degawd â’r sir i ben.

Ar ôl chwarae am y tro cyntaf yn 1989, aeth y Cymro Cymraeg o’r Hendy yn ei flaen i gynrychioli’r sir am 23 tymor cyn ymddeol a dod yn is-hyfforddwr.

Yn ystod ei yrfa, fe gipiodd dros 1,000 o wicedi i’r sir fel troellwr, gan gynrychioli Lloegr mewn 21 gêm brawf a 50 o gemau undydd. Roedd yn aelod o garfan Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd yng Nghymru a Lloegr yn 1999.

Ef hefyd oedd y cricedwr cyntaf erioed o Gymru i gipio 1,000 o wicedi a sgorio 10,000 o rediadau.

Roedd e’n aelod o garfan Morgannwg a enillodd Bencampwriaeth y Siroedd yn 1997, a’r Gynghrair Undydd yn 1993, 2002 a 2004.

Datganiad

Mewn datganiad, dywedodd Robert Croft ei bod yn “freuddwyd” cael hyfforddi Morgannwg, a’i fod yn “falch o fod wedi gwireddu’r freuddwyd honno a chwarae rhan wrth ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr o Gymru”.

Ychwanegodd ei fod yn “gadael gan wybod fod gan Forgannwg nifer o gricedwyr talentog dros ben sy’n gallu symud y clwb yn ei flaen”.

“Er nad oedd ein hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Siroedd wedi mynd fel y byddwn wedi hoffi, roedden ni wedi gallu cystadlu’n urddasol yn y fformat byr gyda charfan fach o chwaraewyr ifainc.”

Dywedodd y byddai gan Forgannwg “le mawr yn fy nghalon”, ac fe ddymunodd yn dda “i’r clwb a’r cefnogwyr ar gyfer y dyfodol”.

‘Cyfraniad anhygoel’

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris, “Ar ran y clwb, hoffwn ddiolch i Robert Croft am y cyfraniad anhygoel mae e wedi’i wneud i Forgannwg, nid yn unig fel prif hyfforddwr ond hefyd fel chwaraewr, is-hyfforddwr a llysgennad dros y 30 mlynedd diwethaf.

“Mae e’n un o’n chwaraewyr gorau erioed a’r chwaraewr mwyaf llwyddiannus erioed yn y clwb ar y llwyfan rhyngwladol, ac me e wedi gwneud mwy nag unrhyw un arall i hyrwyddo criced, nid yn unig yng Nghymru, ond criced yng Nghymru ar draws y byd.

“Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, fe ddatblygodd e nifer o chwaraewyr ifainc ac fe fydd Morgannwg, gobeithio, yn gweld budd hynny am flynyddoedd i ddod.

“Roedd e hefyd wrth y llyw wrth i Forgannwg gyrraedd rownd wyth ola’r Vitality Blast yn ystod dwy flynedd allan o’i dair wrth y llyw, a arweiniodd at ddychwelyd i Ddiwrnod y Ffeinals y llynedd.

“Roedd yn benderfyniad anodd dros ben i’r bwrdd ei wneud ond o ystyried ein perfformiadau ym Mhencampwriaeth y Siroedd, rydym yn teimlo ei bod yn bryd gwneud newidiadau.

“Mae croeso i Robert ddychwelyd i’r clwb unrhyw bryd, a gobeithiwn y bydd yn parhau i fod yn llysgennad ar ran Morgannwg a chriced yng Nghymru.”

Fe fydd y broses o chwilio am brif hyfforddwr newydd yn dechrau ar ôl penodi’r Cyfarwyddwr Criced newydd.