Mae’r adolygiad allanol o Glwb Criced Morgannwg wedi cael ei gwblhau gan y cyn-hyfforddwr rygbi, Huw Bevan.

Bydd argymhellion yr hyfforddwr ffitrwydd, sydd hefyd wedi gweithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, yn cael eu hystyried gan fwrdd y clwb mewn cyfarfod ddydd Iau.

Mae Huw Bevan yn gweithio ar hyn o bryd i gorff Rygbi’r Byd ac fel Pennaeth Cryfder a Chyflyru Undeb Rygbi’r Unol Daleithiau. Cyn hynny, fe fu’n gweithio gyda rhanbarth y Dreigiau.

Fel rhan o’r adolygiad, mae disgwyl i swydd Hugh Morris, y prif weithredwr a’r cyfarwyddwr criced, gael ei hollti’n ddwy. Ac fe allai strwythur y tîm hyfforddi hefyd gael ei addasu.

Cafodd yr adolygiad allanol ei gyhoeddi gan Hugh Morris fis diwethaf yn dilyn tymor siomedig. Enillodd y sir ddim ond dwy gêm yn y Bencampwriaeth, ac fe gawson nhw ymgyrchoedd siomedig yn y cystadlaethau ugain a 50 pelawd.

Ar y cyfan, chwaraeon nhw 36 o gemau, gan ennill dim ond 10, a cholli 23. Roedd tair gêm gyfartal. Collon nhw 10 allan o 14 pedwar o gemau yn y Bencampwriaeth.