Mae chwaraewr amryddawn tîm criced Morgannwg, Craig Meschede wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd newydd gyda’r sir.

Bydd y cytundeb yn ei gadw gyda’r sir tan ddiwedd tymor 2020.

Daw’r newyddion lai na mis ar ôl i golwg360 adrodd fod amheuaeth ynghylch ei ddyfodol gyda Morgannwg.

Ymunodd y chwaraewr 26 oed sy’n enedigol o Dde Affrica â Morgannwg ar fenthyg yn 2015, cyn symud yn barhaol y tymor canlynol.

Roedd e’n aelod allweddol o’r garfan a gyrhaeddodd Ddiwrnod y Ffeinals cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn 2017.

Roedd e allan am ran helaeth o dymor 2018 ag anaf.

‘Dw i wedi ymgartrefu yng Nghymru’

Wrth ymateb i’w gytundeb newydd, dywedodd Craig Meschede, “Yn 2015, ro’n i’n teimlo mai Morgannwg oedd y lle gorau i fod i chwarae criced, a dw i wedi bod wrth fy modd bob munud yma, felly dw i ar ben fy nigon yn cael llofnodi cytundeb newydd.

“Dw i wedi ymgartrefu yng Nghymru ac yn teimlo ein bod yn sicr yn adeiladu ar gyfer y dyfodol gyda nifer y chwaraewyr sydd gyda ni’n dod drwodd, ac alla i ddim aros i’r tymor newydd ddechrau.”

‘Newyddion gwych’

Dywedodd Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Criced Morgannwg, Hugh Morris, “Mae’n newyddion gwych fod Craig wedi ymestyn ei gytundeb gyda Morgannwg.

“Mae Craig yn gricedwr dawnus dros ben sy’n rymus ym mhob fformat o’r gêm ac mae e wedi profi y gallwn ni ddibynnu arno fe i berfformio o dan bwysau.

“Fe gollon ni nifer o fatwyr allweddol ar frig y rhestr yn ystod ein hymgyrch yn y Vitality Blast ac fe gamodd e i mewn a pherfformio gyda’r bat pan alwon ni arno fe i wneud hynny, felly ry’n ni wrth ein boddau ei fod e wedi penderfynu ymroi yn y dyfodol i’r clwb.”