Timm van der Gugten yw enillydd gwobr Chwaraewr y Flwyddyn yn noson wobrau Orielwyr San Helen, clwb cefnogwyr Clwb Criced Morgannwg, yng ngwesty’r Towers ar gyrion Abertawe nos Lun (Hydref 1).

Fe gafodd y bowliwr cyflym ei anrhydeddu hefyd am ei berfformiad wrth gipio saith wiced am 42 yn erbyn Swydd Caint yng Nghaerdydd, wrth fynd y tu hwnt i 100 o wicedi i’r sir.

Daw’r wobr dridiau’n unig ar ôl iddo gael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn noson wobrau Clwb Criced Morgannwg, a Chwaraewr Gorau’r Bencampwriaeth, ar ôl cipio 43 o wicedi ar gyfartaledd o 21. Fe gipiodd bum wiced mewn batiad ddwy waith.

Yn ystod y tymor, cipiodd e 19 o wicedi yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Gyda’r bat, tarodd e 60 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerloyw – ei sgôr gorau erioed i’r sir. Adeiladodd e bartneriaeth o 61 gyda Chris Cooke yn erbyn Essex yn y Vitality Blast, sy’n record i’r sir am y nawfed wiced yn y gystadleuaeth.

‘Tymor arbennig o dda’

Er i dîm Morgannwg gael tymor siomedig ar y cyfan, dywedodd y prif hyfforddwr, Robert Croft wrth golwg360 fod Timm van der Gugten wedi cael “tymor arbennig o dda”.

“Ry’n ni’n hapus dros ben drosto fe. Mewn tymor sy’ ddim wedi bod yn llwyddiannus i’r tîm, y’n ni wedi gweld un neu ddau bright spark yn dod ma’s ohono fe, a Timm yn un, a hefyd Kiran Carlson, Ruaidhri Smith a Kieran Bull.

“Mae digon o fois ifainc wedi cael cyfle yn y garfan ac yn y tîm y tymor hyn, a gobeithio nawr bo nhw’n gwybod beth mae’n rhaid iddyn nhw wneud dros y gaeaf.

“Maen nhw wedi cael profiad nawr. Y bois sy’ moyn gwneud y job hyn am sbel, maen nhw’n mynd i eistedd lawr ac edrych yn y drych a dweud, “Nawr, ni’n gwybod beth mae rhaid i rywun sy’ moyn bod yn chwaraewr proffesiynol am flynydde wneud”, i wneud yn siŵr bo nhw’n cystadlu yn y dyfodol. Mae lan iddyn nhw nawr.”

Yn ôl Robert Croft, mae Timm van der Gugten a’r capten Michael Hogan “wedi cario’r bowlwyr” yn ystod y tymor, a hynny yn absenoldeb Marchant de Lange, Graham Wagg a Craig Meschede am ran helaeth o’r tymor.

“Mae rhaid i chi gofio hefyd fod Lukas Carey ma’s am bump wythnos yn y diwedd, felly i golli tri ohonyn nhw, a Timm a Michael yn y diwedd yn dod trwyddo yn y pum gêm olaf a bowlio llawer o belawdau a chymryd wicedi, dangoson nhw’r ffordd i fynd.”

Teyrnged i John Williams

Fel un o gyn-chwaraewyr Morgannwg sy’n hanu o dde orllewin Cymru – yr ardal mae Orielwyr San Helen yn ei gwasanaethu, talodd Robert Croft deyrnged i John Williams, cadeirydd y grŵp cefnogwyr sydd wedi bod wrth y llyw ers ei sefydlu yn 1972.

“Pan o’n i’n dechrau chwarae i Forgannwg, fi’n cofio John yn cerdded o gwmpas cae San Helen, a fe yw hearbeat y Balconiers. Mae e’n henach nawr, wrth gwrs, ond mae’r ysbryd gyda fe o hyd, ac mae’r dyfodol yn edrych yn braf iawn.”

‘Hyfryd’ gallu gwobrwyo’r chwaraewyr

Ar ddiwedd y noson, dywedodd John Williams wrth golwg360, “Mae’n hyfryd gallu rhoi gwobrau cyfraniad.

“Mae pobol fel Ruaidhri Smith wedi cymeryd pedair wiced am chwech rhediad – economy rate gorau erioed Morgannwg yn y gêm T20. Mae’n neis bod ’da fe rywbeth i ddangos fod e wedi ’neud ’na.

“A meddwl am y bartneriaeth rhwng Kiran Carlson ac Usman Khawaja, oedd hwnna ddim wedi cael ei wneud o’r blaen.”

Wrth ymateb i’w wobr am ei gyfraniad personol i Orielwyr San Helen ac i barhad criced yn Abertawe, ychwanegodd John Williams, “Wy’n swil iawn ambwyti fe. Wi wedi colli geirie i ddweud faint mae’n meddwl bo fi wedi cael y clod yma. O’n i ddim yn ’neud e am y rheswm ’na!

“Ein gorchwyl ni yw cadw criced yn San Helen. Dechreuad criced yng Nghymru oedd yn Abertawe.”

‘Dewis anodd’

Wrth longyfarch Timm van der Gugten ar ennill prif wobr y noson, cyfaddefodd John Williams ei fod yn “anodd dewis” enillwyr ar gyfer y gwobrau o ystyried tymor siomedig y sir.

“Dim ond unwaith mewn 45 o flynydde ’dyn ni ddim wedi rhoi gwobr – yn yr 80au gan bo ni’n siomedig fod neb wedi dod lan i’r safon.

“Ond y peth yw, mae’n rhaid i ni eu cefnogi nhw ar ddiwedd y dydd, a gobeithio bod hwnna’n hwb iddyn nhw fynd ymlaen y tymor nesa’, a gobeithio gewn nhw dymor da.

“Ond mae angen sment arnyn nhw yn y canol, fel mae Jonathan Trott ac Ian Bell wedi gwneud i Swydd Warwick. Does dim gyda ni beth o’n ni’n galw ’slawer dydd yn senior professional.”

Yr enillwyr yn llawn

Chwaraewr y Flwyddyn – Timm van der Gugten

Chwaraewr Ail Dîm y Flwyddyn – Tom Cullen

Chwaraewr yr Ail Dîm sydd wedi gwella fwyaf – Jack Murphy

Gwobrau cyfraniadau arbennig – Michael Hogan, Usman Khawaja, Kiran Carlson, Ruaidhri Smith, Timm van der Gugten