Y bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd, Timm van der Gugten sydd wedi’i enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan Glwb Criced Morgannwg.

Dyma’r ail dymor allan o’i dri gyda’r sir iddo ennill y wobr.

Enillodd e hefyd wobr Chwaraewr y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth yn dilyn ei berfformiadau cyson gyda’r bêl, gan gipio 43 o wicedi ar gyfartaledd o 21.

Cipiodd e bum wiced mewn batiad ddwy waith, gan gynnwys saith am 42 yn erbyn Swydd Caint yng Nghaerdydd, wrth fynd y tu hwnt i 100 o wicedi i’r sir.

Yn ystod y tymor, cipiodd e 19 o wicedi yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Gyda’r bat, tarodd e 60 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerloyw – ei sgôr gorau erioed i’r sir. Adeiladodd e bartneriaeth o 61 gyda Chris Cooke yn erbyn Essex yn y Vitality Blast, sy’n record i’r sir am y nawfed wiced yn y gystadleuaeth.

Gwobrau eraill

Y capten mewn gemau undydd, Colin Ingram enillodd wobr Chwaraewr Undydd y Flwyddyn.

Roedd e ar frig tabl rhediadau’r sir yn y Vitality Blast (430) ac yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London (402) ar gyfartaledd o 57.

Y batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson enillodd Wobr John Derrick am Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn, ar ôl taro 152 yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby yn San Helen. Sgoriodd e dros 500 o rediadau yn y gystadleuaeth.

Tarodd ei hanner canred cyntaf yn y Vitality Blast yn erbyn Surrey ar yr Oval, a hynny oddi ar 32 o belenni o flaen camerâu Sky Sports.

Jeremy Lawlor o Gaerdydd enillodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn yr Ail Dîm yn dilyn dau ganred, y naill yn erbyn Gwlad yr Haf a’r llall yn erbyn Middlesex. Ar ôl torri drwodd i’r tîm cyntaf, cipiodd e dair wiced yn erbyn Sussex yn Hove.

Kazi Szymanski gipiodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn yr Academi, a Tegid Phillips gafodd y wobr am y Chwaraewr sydd wedi Gwella Mwyaf yn yr Academi.

Oriel yr Enwogion

Ar y noson yng Nghaerdydd, cafodd Matthew Maynard ei dderbyn yn aelod o Oriel Enwogion Clwb Criced Morgannwg.

Sgoriodd e ganred yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Efrog yn San Helen yn 1985, ac fe aeth yn ei flaen i fod yn fatiwr o fri dros gyfnod o chwarter canrif.

Sgoriodd e bron i 25,000 o rediadau mewn gemau dosbarth cyntaf, ac roedd yn gapten ar y tîm enillodd y Bencampwriaeth yn 1997.

Fe hefyd sydd ar frig y rhestr o chwaraewyr sydd wedi taro canred y nifer fwyaf o weithiau (57).

Chwaraeodd e dros Loegr mwewn pedair gêm brawf a 14 o gemau undydd.

Treuliodd e gyfnod yn Brif Hyfforddwr y sir cyn symud at Wlad yr Haf, ond fe ddychwelodd bellach yn hyfforddwr batio cysylltiol y sir fel aelod o dîm hyfforddi Robert Croft.

  • Bydd rhagor o wobrau’r sir yn cael eu cyflwyno nos Lun, pan fydd Orielwyr San Helen yn cynnal noson arbennig yn Llansawel ar gyrion Abertawe.