Daeth cadarnhad y prynhawn yma y bydd Clwb Criced Morgannwg yn cynnal adolygiad allanol ar ddiwedd y tymor.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ganlyniadau siomedig y sir yn 2018, yn ogystal â’r chwaraewyr a’r tîm hyfforddi. Mae disgwyl i’r newidiadau sy’n deillio o’r adolygiad gael eu rhoi ar waith o fis nesaf ymlaen.

Gallai’r camau sy’n deillio o’r adolygiad gynnwys rhannu swydd y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Criced Hugh Morris yn ddwy, a dod â chyfarwyddwr criced i mewn o’r tu allan.

Fe fydd hefyd yn edrych ar y tîm hyfforddi presennol, sy’n cynnwys Robert Croft, Matthew Maynard, Steve Watkin, David Harrison ac Adrian Shaw.

Cafodd yr adolygiad ei gyhoeddi yn ystod fforwm cefnogwyr yng Ngerddi Sophia, gyda hyd at 200 o aelodau’r clwb wedi ymgynnull.

Perfformiadau

Mae Morgannwg yn chwarae yn eu gêm olaf y tymor hwn ar hyn o bryd, a honno yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr. Byddan nhw’n gorffen ar waelod yr ail adran wrth iddyn nhw chwilio am eu hail fuddugoliaeth yn unig y tymor hwn. Maen nhw wedi colli saith, ac wedi cael dwy gêm gyfartal.

Roedden nhw ar waelod y tabl yn y gystadleuaeth 50 pelawd, ac wedi methu â chyrraedd rownd wyth ola’r gystadleuaeth ugain pelawd.

Ym mhob cystadleuaeth, maen nhw wedi chwarae 35 o gemau, wedi ennill naw a cholli 23, gan ddod yn gyfartal dair gwaith.

Mae Hugh Morris eisoes wedi dweud y bydd y sir yn cadw at eu polisi o ddewis chwaraewyr ifainc o Gymru y tymor nesaf, ond mae’r sir dan bwysau i ddod â nifer o chwaraewyr profiadol i mewn o’r tu allan i’w cefnogi.

Roedden nhw wedi colli nifer o chwaraewyr profiadol y tymor hwn, gan gynnwys y ddau chwaraewr tramor o Awstralia, Shaun Marsh ac Usman Khawaja.