Swydd Gaerlŷr yw gwrthwynebwyr olaf Morgannwg y tymor hwn, wrth iddyn nhw chwilio am eu hail fuddugoliaeth yn unig yn ail adran y Bencampwriaeth.

Dydyn nhw ddim wedi ennill ers gêm gynta’r tymor, pan guron nhw Swydd Gaerloyw, ac maen nhw’n wynebu’r ymwelwyr sydd newydd guro Durham o fatiad a mwy yr wythnos ddiwethaf.

Byddan nhw heb eu seren, y bowliwr Mohammad Abbas o Bacistan, sydd wedi’i alw i’w garfan genedlaethol i herio Awstralia. Ond mae cyn-fatiwr Morgannwg, Mark Cosgrove wedi’i gynnwys.

Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan o ddeuddeg â honno a wynebodd Swydd Gaint yr wythnos ddiwethaf.

Gemau’r gorffennol

Swydd Gaerlŷr oedd yn fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw deithio i Erddi Sophia yng Nghaerdydd, ar ddechrau tymor 2016, pan gipiodd y bowliwr cyflym Clint McKay chwe wiced am 73 cyn taro hanner canred, wrth i’r Gwyddel Niall O’Brien sgorio 93.

Ond y Cymry oedd yn fuddugol yn 2015, a hynny o 137 o rediadau wrth i Graham Wagg daro 94, Chris Cooke 84, Jacques Rudolph 74 a Colin Ingram 60 cyn i’r bowlwyr sicrhau’r fuddugoliaeth ar y diwrnod olaf.

Roedden nhw’n gyfartal yn 2012 a 2014 yng Nghaerdydd.

Carfan Morgannwg: M Hogan (capten), S Cook, J Murphy, N Selman, K Carlson, C Cooke, G Wagg, K Bull, R Smith, T van der Gugten, J Lawlor, C Meschede

 Carfan Swydd Gaerlŷr: C Ackermann (capten), M Cosgrove, H Dearden, N Dexter, S Evans, G Griffiths, L Hill, A Javid, D Klein, B Mike, C Parkinson, H Swindells, T Taylor

Sgorfwrdd