Tarodd Zak Crawley 168, ei sgôr gorau erioed a’i ganred cyntaf i Swydd Caint, wrth i’w dîm nesáu at fuddugoliaeth dros Forgannwg o fewn tri diwrnod yn Caergaint.

Sgoriodd y Saeson 436 – mantais batiad cyntaf o 250 – a gorfodi Morgannwg i ddechrau eu hail fatiad yn ystod awr ola’r dydd.

Collodd Morgannwg eu batwyr agoriadol, Nick Selman a Stephen Cook wrth i’r ddau gael eu dal yn y slip oddi ar fowlio cymhedrol Darren Stevens o fewn chwe phelawd gynta’r batiad.

Cafodd Kiran Carlson ei fowlio wedyn gan y troellwr Joe Denly cyn i Kieran Bull gael ei ddal yn y slip oddi ar belen ola’r dydd gan Matt Henry i adael y Cymry’n 33 am bedair, 217 o rediadau i ffwrdd o orfodi’r Saeson i fatio am yr ail waith.

Wicedi cynnar i Forgannwg

I Zak Crawley yn bennaf y mae’r diolch am sefyllfa Swydd Gaint, wrth iddo fe adeiladu partneriaeth o 132 am y chweched wiced gyda Sam Billings mewn 29 pelawd, wrth iddyn nhw ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 186.

Roedden nhw’n 93 am ddwy ar ddechrau’r ail ddiwrnod, ond fe gollon nhw eu trydedd wiced o fewn wyth pelawd pan gafodd Harry Podmore ei ddal oddi ar ei goesau gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan.

Collodd Heino Kuhn ei wiced mewn modd tebyg yn fuan wedyn, oddi ar fowlio Ruaidhri Smith am naw, a’i dîm yn 132 am bedair.

Partneriaeth allweddol i’r Saeson

Daeth canred Zak Crawley wedyn oddi ar 141 o belenni ar ôl iddo fod yn batio am fwy na thair awr.

Colli Daniel Bell-Drummond wnaeth y Saeson wedyn, wrth iddo gael ei ddal yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio Craig Meschede wrth i’r tîm cartref grafu mantais fechan.

Ond ar ôl cinio, roedd llif o rediadau wrth i Zak Crawley a Sam Billings adeiladu partneriaeth allweddol, gyda Billings yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 74 o belenni.

Serch hynny, llwyddodd Kieran Bull i ddisodli Zak Crawley yn y pen draw wrth daro ei ffon ganol.

Y Saeson yn adeiladu mantais sylweddol

Ar ôl te cynnar oherwydd y glaw, cipiodd Morgannwg eu seithfed wiced wrth i Ollie Robinson gael ei ddal i lawr ochr y goes gan Chris Cooke oddi ar fowlio Ruaidhri Smith.

Daeth wiced fawr i Forgannwg unwaith eto pan gafodd Sam Billings ei fowlio gan Michael Hogan am 85, ei sgôr uchaf ers iddo daro canred yn erbyn Swydd Gaerloyw yn 2016.

Ar ôl sgorio rhediad rhif 15,000 ei yrfa, cafodd Darren Stevens ei ddal yn y cyfar gan Kiran Carlson oddi ar bêl gan Jeremy Lawlor a wyrodd i ffwrdd oddi wrtho.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Matt Henry ei ddal gan Jeremy Lawlor oddi ar fowlio Kieran Bull, gan orfodi Morgannwg i wynebu 14 pelawd ar ddiwedd y dydd.