Mae golwg360 yn deall fod dau o chwaraewyr Clwb Criced Morgannwg wedi penderfynu gadael y sir.

Y gred yw fod batiwr ifanc a chwaraewr amryddawn yn ymuno â sir gyfagos. Dydi’r naill na’r llall ddim yn dod o Gymru.

Mae gan Forgannwg bolisi bellach o feithrin doniau chwaraewyr ifanc o Gymru.

Mae Morgannwg wedi cael tymor siomedig ym mhob cystadleuaeth – gan ennill un gêm Bencampwriaeth yn unig, a heb gyrraedd rowndiau terfynol y naill gystadleuaeth undydd na’r llall.

Mae’r batiwr 21 oed, Aneurin Donald eisoes wedi gadael y sir am Hampshire – ar fenthyg tan ddiwedd y tymor, cyn ymuno’n barhaol y tymor nesaf.

Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cyfarfod yng Ngerddi Sophia heno, ac fe allai’r sibrydion gael eu cadarnhau wedi hynny.