Mae gan Forgannwg fantais o bedwar rhediad ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd, wrth i Swydd Gaerloyw ailddechrau eu batiad cyntaf ar 133 am bump.

Ond yr un hen stori oedd hi o ran y batio i Forgannwg ar y diwrnod cyntaf, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 137 mewn 38.1 pelawd.

Roedden nhw’n 21 am bump cyn i Chris Cooke (60) a Graham Wagg (33) ddod ynghyd i adeiladu partneriaeth o 83 am y chweched wiced i sefydlogi’r batiad ryw fymryn.

Mae Swydd Gaerloyw yn 133 am bump wrth ymateb yn eu batiad cyntaf, ond fe allen nhw fod wedi adeiladu mantais sylweddol eisoes heblaw am fowlio cywir Morgannwg. Y gorau ohonyn nhw oedd Timm van der Gugten, a gipiodd ddwy wiced mewn pedair pelen.

Manylion

Ar ôl dewis bowlio heb dafl, manteisiodd Swydd Gaerloyw ar yr amodau cynnar yng Ngerddi Sophia ac ar ôl cipio wicedi cynnar, fe osododd y Saeson y Cymry o dan bwysau o’r dechrau’n deg.

29 yw partneriaeth agoriadol orau Morgannwg yn eu saith batiad diwethaf wrth fatio’n gynnar ac felly mae’r batiad, i raddau helaeth, wedi mynd yn ei flaen heb seiliau cadarn dro ar ôl tro.

Doedd y tro hwn yn ddim gwahanol, wrth i Craig Miles daro coes Connor Brown o flaen y wiced, a Morgannwg yn bedwar ar ddechrau’r bedwaredd belawd. Dilynodd Tom Cullen yn fuan wedyn, wrth gael ei fowlio gan yr un bowliwr, a Morgannwg yn 16 am ddwy.

Tair pelawd allweddol

Yna, collodd Morgannwg dair wiced mewn pelawdau olynol.

Tarodd David Payne goes Kiran Carlson o flaen y wiced, cyn i Stephen Cook o Dde Affrica – sydd wedi sgorio 25 rhediad yn unig mewn tri batiad – gael ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick i lawr ochr y goes.

Roedden nhw’n 21 am bump pan darodd David Payne goes David Lloyd o flaen y wiced am bedwar.

Partneriaeth bwysig

Ond fel sydd wedi digwydd droeon y tymor hwn, un partneriaeth yng nghanol y batiad oedd wedi sicrhau cyfanswm lled barchus i Forgannwg.

Adeiladodd Chris Cooke a Graham Wagg 83 am y chweched wiced mewn 16 o belawdau.

Daeth sgôr Chris Cooke oddi ar 42 o belenni, wrth iddo daro 44 mewn ergydion i’r ffin.

Ond collodd Morgannwg y naill a’r llall y naill ochr i amser cinio ac roedd y batiad ar chwâl unwaith eto.

Digon hawdd fyddai beirniadu holl fatwyr di-hyder Morgannwg am ergydion gwael, ond rhaid canmol bowlwyr Swydd Gaerloyw hefyd wrth i’r bêl wyro dipyn ar ddiwrnod cymylog.

Ymateb Swydd Gaerloyw

Os oedd bowlio Swydd Gaerloyw’n glodwiw, rhaid canmol ymdrechion bowlwyr Morgannwg hefyd, wrth iddyn nhw frwydro i amddiffyn cyfanswm isel eto fyth.

Mae’r ffaith fod pedair allan o’u pum wiced wedi dod drwy fowlio, taro coes o flaen y wiced neu ddaliad i’r wicedwr yn dangos mor gywir oedd y bowlio ar y cyfan.

Cymerodd batwyr yr ymwelwyr, Chris Dent a Miles Hammond saith pelawd i gyrraedd ffigurau dwbwl, cyn i gapten Morgannwg, Michael Hogan daro coes Chris Dent o flaen y wiced, a Swydd Gaerloyw’n 18 am un.

Bedair pelawd yn ddiweddarach, cipiodd Ruaidhri Smith wiced Miles Hammond oddi ar ei belen gyntaf un, wrth daro’i goes o flaen y wiced.

Cafodd James Bracey, sydd wedi dal sylw nifer o dimau’r adran gyntaf, ei ddal gan Chris Cooke i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 33, cyn i’r un bowliwr waredu Gareth Roderick wrth daro’i goes o flaen y wiced.

Benny Howell oedd prif sgoriwr yr ymwelwyr ar y diwrnod cyntaf gyda 43, ond fe gipiodd y troellwr Kieran Bull ei wiced yn ei ail belawd, wrth i’r batiwr yrru’n syth ar ochr y goes at Michael Hogan.

Wrth barhau â’r batiad, mae batwyr Swydd Gaerloyw, Jack Taylor a Ryan Higgins ill dau yn 15 heb fod allan.

Sgorfwrdd