Mae chwaraewr amryddawn tîm criced Morgannwg, Craig Meschede wedi dychwelyd i’r garfan i herio Swydd Gaerloyw yn y gêm olaf ond un yng Nghaerdydd y tymor hwn.

Mae e wedi gwella o anaf i gesail y forddwyd ar ôl colli’r gêm yn erbyn Swydd Derby yn Derby yr wythnos ddiwethaf, ond wedi’i hepgor o’r tîm.

A’r tymor wedi bod yn un siomedig i’r Cymry, daeth eu hunig fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth yng ngêm gynta’r ymgyrch pedwar diwrnod yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Maen nhw ar waelod y tabl ar ôl colli pum gêm yn olynol.

Mae carfan Swydd Gaerloyw yn cynnwys Ben Charlesworth, y batiwr 17 oed sydd wedi cael ei ryddhau o’r ysgol i chwarae yn y gêm.

Gemau’r gorffennol

Ac fe fydd yr ornest yn sicr o ddod ag atgofion melys yn ôl i fatiwr ifanc Morgannwg, Kiran Carlson, a darodd 191 yn y gêm gyfatebol yng Nghaerdydd y tymor diwethaf. Fe fyddai naw rhediad yn rhagor wedi ei osod yn y llyfrau hanes fel y batiwr ieuengaf erioed i daro canred dwbl i Forgannwg.

Gorffennodd yr ornest honno’n gyfartal yn y pen draw, ond y Saeson oedd yn fuddugol y tymor blaenorol, a hynny o ddeg wiced wrth i Hamish Marshall daro canred wrth i’w yrfa ddirwyn i ben.

Gêm gyfartal a gafwyd yn 2014 a hynny oherwydd y glaw. Cafodd deuddeg awr o’r gêm eu colli oherwydd y tywydd.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2013, a hynny o wyth wiced wrth i Michael Hogan gipio’i ganfed wiced y tymor hwnnw. Enillodd Morgannwg eu tair gêm flaenorol yn erbyn Swydd Gaerloyw – yn 2012, 2011 a 2010.

Cyn y tymor diwethaf, doedd Swydd Gaerloyw ddim wedi ennill yr un gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 2005, pan darodd Chris Taylor 176 i arwain ei dîm i fuddugoliaeth o saith wiced.

Morgannwg: S Cook, C Brown, T Cullen, D Lloyd, K Carlson, C Cooke, G Wagg, K Bull, R Smith, T van der Gugten, M Hogan (capten)

Swydd Gaerloyw: C Dent (capten), M Hammond, J Bracey, B Howell, G Roderick, J Taylor, C Higgins, B Charlesworth, C Miles, D Payne, M Taylor

Sgorfwrdd