Collodd tîm criced Morgannwg o 169 o rediadau yn erbyn Swydd Derby ar drydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn Derby ddydd Iau.

Cawson nhw eu bowlio allan am 121 yn eu batiad cyntaf a 132 yn eu hail fatiad, gan golli saith wiced cyn cinio.

Roedden nhw’n 16 am un yn eu hail fatiad ar ddechrau’r diwrnod, wrth gwrso 302 am eu hail fuddugoliaeth yn unig y tymor hwn. Dydyn nhw ddim wedi ennill yr un gêm ers gêm gynta’r tymor.

Manylion

Sgoriodd Swydd Derby 251 yn eu batiad cyntaf, wrth i’r capten Billy Godleman sgorio 95 ar frig y batiad, gan gyrraedd 4,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa.

Cipiodd Timm van der Gugten a chyn-fowliwr cyflym Swydd Derby, Graham Wagg dair wiced yr un.

Ond roedd yr ysgrifen ar y mur o’r dechrau’n deg i’r Cymry, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 121 yn eu batiad cyntaf – a David Lloyd yn brif sgoriwr gyda 25. Cipiodd Tony Palladino chwe wiced am 29.

Bowliodd Morgannwg yn gywir wrth i Swydd Derby gael eu bowlio allan am 171 yn eu hail fatiad, wrth i Alex Hughes sgorio 57. Yn ei gêm gyntaf ers 2015, cipiodd y troellwr Kieran Bull dair wiced am 36.

Cwrso a chwalu

Roedd cwrso 302 am y fuddugoliaeth yn edrych yn annhebygol i Forgannwg, gan nad ydyn nhw wedi sgorio mwy na 265 mewn batiad y tymor hwn.

Ac fe ddechreuon nhw yn y modd gwaethaf posib ar ddiwedd y trydydd diwrnod, wrth golli’r batiwr tramor Stephen Cook oddi ar belen ola’r dydd, wedi’i fowlio gan Tony Palladino am bump, a’r Cymry’n 16 am un.

Collodd Tom Cullen ei wiced am bedwar yn yr un modd yn ystod ail belawd y bore, ac roedden nhw’n 32 am dair ddwy belawd yn ddiweddarach pan darodd yr un bowliwr goes Kiran Carlson o flaen y wiced am bedwar.

Cipiodd Tony Palladino ddaliad yn safle’r goes fain oddi ar fowlio Lockie Ferguson am un wrth i Forgannwg lithro ymhellach i 33 am bedair.

Roedd Morgannwg yn 42 am bump wrth i Martin Andersson gipio’i wiced gyntaf i Swydd Derby wrth waredu Connor Brown am 11, wedi’i ddal gan y wicedwr Harvey Hosein. Roedd yn rheswm da am ddathliad i’r bowliwr sydd ar fenthyg o Middlesex ac sy’n cael ei ben-blwydd yn 22 oed heddiw.

Ddwy belawd yn ddiweddarach, collodd Morgannwg eu chweched wiced am 56, wrth i Graham Wagg gael ei ddal yn y slip gan Wayne Madsen oddi ar fowlio Martin Andersson heb sgorio.

Partneriaeth dda – ond colli wicedi o hyd

Ychwanegodd Ruaidhri Smith a Chris Cooke 26 am y seithfed wiced, cyn i Smith gael ei ddal yn y slip gan Gary Wilson oddi ar fowlio Martin Andersson, a’r sgôr yn 82 am saith.

A daeth yr wythfed wiced ddwy belen yn ddiweddarach ar 82, wrth i Timm van der Gugten gael ei ddal gan Martin Andersson oddi ar ei fowlio’i hun heb sgorio.

Cyrhaeddodd Chris Cooke ei hanner canred oddi ar 59 o belenni, ar ôl taro chwe phedwar ac un chwech, a llwyddodd Morgannwg i gyrraedd amser cinio wedi sgorio 107 am wyth.

Roedd oedi hir yn ystod y prynhawn oherwydd y glaw, ond fe ddychwelodd y chwaraewyr i’r cae toc ar ôl 5 o’r gloch, a chollodd Morgannwg eu dwy wiced olaf o fewn dim o dro i ddod â’r ornest i ben.

Cafodd Chris Cooke ei fowlio gan Lockie Ferguson am 67 a’r sgôr yn 121 am naw, a chapten Morgannwg, Michael Hogan oedd y batiwr olaf allan, am 11, wrth i Lockie Ferguson ei ddal oddi ar fowlio Tony Palladino.

Gorffennodd Tony Palladino gyda 10 wiced am 81 rhediad yn yr ornest, y ffigurau gorau gan un o fowlwyr Swydd Derby ers Paul Aldred (13-184) yn 1999. Rhain hefyd oedd y ffigurau gorau gan un o fowlwyr y sir yn erbyn Morgannwg ers Michael Holding (10-123) yn 1989.

Mae gan Forgannwg dair gêm yn weddill – gartref yn erbyn Swydd Gaerloyw a Swydd Gaerlŷr, ac oddi cartref yn erbyn Swydd Gaint. Maen nhw ar waelod yr ail adran o hyd.