Ar ôl colli Shaun Marsh ac Usman Khawaja yn ystod y tymor, mae Morgannwg wedi arwyddo’r batiwr o Dde Affrica, Stephen Cook fel eu trydydd chwaraewr tramor y tymor hwn.

Bydd y chwaraewr 35 oed ar gael am weddill y tymor yn y Bencampwriaeth, gyda phedair gêm o’r ymgyrch yn weddill. Dim ond un gêm mae’r sir wedi’i hennill y tymor hwn, gyda buddugoliaeth dros Swydd Gaerloyw yng ngêm gynta’r tymor.

Fe fydd Stephen Cook yn cael ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf wrth i Forgannwg deithio i Derby i herio Swydd Derby ddydd Mawrth.

Gyrfa

Fe fydd Stephen Cook yn cynnig cryn dipyn o brofiad i dîm ifanc Morgannwg, wrth i’r sir barhau â’u polisi o feithrin doniau chwaraewyr o Gymru, er iddyn nhw gael tymor siomedig eleni.

Mae e wedi sgorio 44 canred dosbarth cyntaf, gan gynnwys tri mewn gemau prawf.

Mae e wedi sgorio dros 14,000 o rediadau dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o fwy na 40, a’i sgôr uchaf yw 390.

‘Profiad gwerthfawr’

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris, “Rydym wrth ein bodd fod Stephen wedi ymuno â Morgannwg am weddill ein hymgyrch.

“Mae e wedi’i brofi ei hun fel sgoriwr rhediadau ac fe fydd yn ychwanegu profiad gwerthfawr ar frig y rhestr fatio.

“Tra ein bod yn parhau â’n strategaeth o ddatblygu chwaraewyr Llwybr, mae’n bwysig eu bod nhw’n chwarae ochr yn ochr â batwyr profiadol fel Stephen, a fydd yn helpu eu datblygiad wrth symud ymlaen.”

‘Cynnig cymorth’

Dywedodd Stephen Cook, “Dw i wedi fy nghyffroi o gael ymuno â Morgannwg am weddill y tymor a gobeithio y galla i eu helpu nhw i orffen y tymor ar nodyn postif.

“Mae gan Forgannwg nifer o fatwyr ifanc dawnus yn y clwb, a dw i’n edrych ymlaen at ymuno â nhw a chynnig unrhyw gymorth y galla i.”