Mae Swydd Warwick mewn sefyllfa gref ar ddechrau trydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yn Llandrillo yn Rhos.

Maen nhw’n 445 am wyth ar ôl i Ian Bell daro 204, cyn i’r troellwr Andrew Salter daro’i goes o flaen y wiced.

Parodd ei fatiad 455 munud, wrth iddo wynebu 331 o belenni, gan daro 24 pedwar a dau chwech.

Mewn tri batiad yn erbyn Morgannwg y tymor hwn, mae’r batiwr wedi sgorio 425 o rediadau oddi ar 743 o belenni mewn 1,081 o funudau. Mae e wedi taro 53 pedwar a dau chwech.

Manylion

Ar ôl dechrau’r ail ddiwrnod ar 116 am dair, batiodd Chris Wright ac Ian Bell am awr ar yr ail fore gan ychwanegu 46 at eu cyfanswm dros nos, cyn i Craig Meschede daro ffon goes Wright a’i fowlio am 16 i ddod â phartneriaeth o 56 i ben.

Ar ôl cael ei ollwng ar 55 gan Andrew Salter oddi ar fowlio Ruaidhri Smith, aeth Ian Bell yn ei flaen i achosi rhwystredigaeth i Forgannwg ynghyd â’i bartner newydd, Sam Hain wrth i Swydd Warwick ennill pwynt batio drwy gyrraedd 200.

Erbyn amser cinio, roedd y Saeson yn 209 am dair, ac Ian Bell heb fod allan ar 89.

Canred i Ian Bell

Fe gyrhaeddodd Ian Bell ei ganred toc wedi’r egwyl, a hynny oddi ar 194 o belenni, gan daro 13 pedwar. Hwn oedd ei drydydd canred yn erbyn y Cymry y tymor hwn, yn dilyn dau ganred diguro yn Edgbaston, gan sgorio 115 a 106.

Erbyn canol y prynhawn, roedd Ian Bell a Sam Hain wedi adeiladu partneriaeth o gant ac yn fuan wedyn, cyrhaeddodd Hain ei hanner canred oddi ar 74 o belenni ar ôl taro pum pedwar. Ond roedd e allan am 61 pan yrrodd at Kiran Carlson yn y cyfar oddi ar fowlio Ruaidhri Smith, a’i dîm yn 283 am bump.

Ian Bell – o nerth i nerth

Cyrhaeddodd Ian Bell 150 oddi ar 264 o belenni ar ôl taro 18 pedwar ac un chwech, ac fe adeiladodd e bartneriaeth o 62 gydag Ian Bell cyn i David Lloyd daro’i goes o flaen y wiced am 22, a’i dîm yn 345 am chwech wrth i Forgannwg gipio ail bwynt bonws yn y batiad.

Yn fuan wedyn am 4.30, daeth y chwaraewyr oddi ar y cae oherwydd golau gwael, a dychwelyd awr yn ddiweddarach gyda 23 pelawd yn weddill o’r diwrnod.

Wrth i Ian Bell gyrraedd 180, roedd e a Keith Barker wedi adeiladu partneriaeth o hanner cant am y seithfed wiced wrth i Swydd Warwick ymlwybro tua’r 400 yn ystod awr ola’r dydd. Yn ystod y batiad, aeth e heibio cyfanswm o 400 o rediadau yn erbyn Morgannwg yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, heb fod allan unwaith.

Fe gyrhaeddodd ei ganred dwbl oddi ar 327 o belenni, wrth iddo daro 24 pedwar a dau chwech. Ond roedd e allan yn y pen draw am 204, ar ôl i Andrew Salter daro’i goes o flaen y wiced.

Erbyn hynny, roedd ei dîm yn 442 am wyth gan orffen am y dydd ar 445 am wyth, 242 o rediadau ar y blaen i Forgannwg.

Adroddiad: y diwrnod cyntaf

Sgorfwrdd