Ar ôl colli yn erbyn Surrey mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast nos Wener, fe fydd tîm criced Morgannwg yn canolbwyntio bellach ar y Bencampwriaeth, wrth i Swydd Durham ymweld â Gerddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw (11 o’r gloch).

Mae chwe gêm pedwar diwrnod yn weddill cyn diwedd y tymor, ac fe fydd y Cymry’n gobeithio codi oddi ar waelod y tabl.

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth ers iddyn nhw gael crasfa yn erbyn Sussex yn Hove fis diwethaf.

Yn dychwelyd i’r tîm am y tro cyntaf ers mis Medi diwethaf mae’r chwaraewr amryddawn Craig Meschede, sydd wedi chwarae mewn gemau undydd yn unig y tymor hwn.

Ond mae’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten allan ar ôl anafu ei ysgwydd nos Wener, ac mae disgwyl iddo fe gael sgan ddydd Llun.

Cyfle i’r to iau

Gyda gobeithion Morgannwg o ennill tlws ar ben am dymor arall, fe fydd cyfle i rai o’r to iau rhwng nawr a diwedd y tymor.

Mae’r tîm ar gyfer y gêm hon yn cynnwys wyth chwaraewr sydd wedi dod drwy rengoedd y sir, gan gynnwys y Cymry ifainc Connor Brown a Jack Murphy.

Dywedodd y prif hyfforddwr Robert Croft: “O safbwynt strategaeth, does dim byd wedi newid. Byddwn ni’n rhoi cyfle i chwaraewyr llwybr Morgannwg ac o gwmpas hynny, rydyn ni’n gobeithio y bydd y chwaraewyr hŷn yn gallu eu helpu nhw.

“Gyda chwe gêm yn weddill, rydyn ni’n dal i drio chwarae criced da ac ennill gemau criced. Daw canlyniadau o’r perfformiad, a’r perfformiad dw i’n edrych arno fe fel hyfforddwr.”

Gemau’r gorffennol

Yn San Helen y chwaraeodd y ddwy sir yn erbyn ei gilydd ddiwethaf, wrth i Forgannwg gwrso 266 mewn 51 pelawd y tymor diwethaf. Roedden nhw’n fuddugol o dair wiced ar ôl i Nick Selman daro canred.

Wythnosau’n ddiweddarach, y Saeson oedd yn fuddugol, o naw wiced, yn Chester-le-Street.

Ar ôl ymuno â Phencampwriaeth y Siroedd yn 1992, mae Durham wedi chwarae chwe gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers hynny. Roedden nhw’n fuddugol o fatiad a 104 o rediadau yng Nghaerdydd yn eu tymor cyntaf.

Ond dydyn nhw ddim wedi ennill ers hynny, wrth i Forgannwg orffen yn fuddugol yn 1997, 2002 a 2003. Roedden nhw’n gyfartal yn 2004.

Y gwrthwynebwyr

Mae disgwyl i ddau o chwaraewyr Swydd Durham, Alex Lees ac Axar Patel chwarae yn eu gêm gyntaf i’r Saeson.

Mae Alex Lees, y batiwr o Swydd Efrog, wedi ymuno â’r sir ar fenthyg am weddill y tymor cyn dechrau ar gytundeb tair blynedd y tymor nesaf.

Daw Axar Patel, y troellwr o India, i mewn i’r garfan am weddill y tymor.

Wrth i Nathan Rimmington orffwys cyn rownd wyth ola’r Vitality Blast, mae nifer o chwaraewyr yn dychwelwyd i’r garfan – Cameron Steel, Michael Richardson, Gareth Harte, Matt Salisbury a Josh Coughlin. Does dim lle i’r bowliwr cyflym rhyngwladol Mark Wood, sy’n parhau i wella o anaf.

Morgannwg: M Hogan (capten), J Murphy, C Brown, N Selman, C Meschede, D Lloyd, C Cooke, K Carlson, A Salter, R Smith, L Carey

Swydd Durham: P Collingwood (capten), C Steel, A Lees, W Smith, G Clark, G Harte, M Richardson, S Poynter, A Patel, J Coughlin, B McCarthy, M Salisbury, C Rushworth

Sgorfwrdd