Mae rhediad di-guro tîm criced Morgannwg o chwe gêm yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast wedi dod i ben ar ôl iddyn nhw golli o 29 rhediad yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y Saeson drwodd i rownd yr wyth olaf, tra bod Morgannwg yn aros am eu lle nhw.

Tarodd Corey Anderson 72 oddi ar 30 belenni, ac roedd cyfraniadau o 47 gan James Hildreth a 36 gan Steve Davies wrth i’r Saeson sgorio 210 am wyth yn eu hugain pelawd.

Cipiodd Michael Hogan, Timm van der Gugten, Andrew Salter a Graham Wagg ddwy wiced yr un, gyda dwy wiced Wagg yn dod oddi ar ddwy belen ola’r batiad.

Pwysau

Wrth ymateb, roedd Morgannwg dan bwysau o’r dechrau’n deg, a dim ond Craig Meschede (35) oedd wedi cyfrannu’n sylweddol at gyfanswm Morgannwg o 181 am naw.

Dechreuodd y gêm am 3.15 – 45 munud yn hwyr – oherwydd y glaw ond mewn gwirionedd, fe fyddai wedi bod yn hwb i obeithion Morgannwg o gyrraedd yr wyth olaf pe na baen nhw wedi llwyddo i chwarae, gan gipio pwynt.

Mae Morgannwg yn bedwerydd ar 15 o bwyntiau, tra bod Gwlad yr Haf yn aros ar y brig gyda 20 pwynt. Swydd Gaerloyw sy’n ail ar 18 pwynt, a Swydd Gaint yn drydydd gydag 16 pwynt. Ond mae Gwlad yr Haf wedi chwarae un gêm yn fwy na’r gweddill.

Mae Morgannwg yn teithio i Hove nos Fawrth i herio Sussex, cyn gorffen gyda gornest yn erbyn Surrey yng Nghaerdydd nos Wener.