Fe allai’r glaw ddifetha gobeithion tîm criced Morgannwg o ennill chwe gêm yn olynol, wrth iddyn nhw deithio i Taunton i herio Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heddiw (dydd Sul).

Mae Gwlad yr Haf ar frig y tabl, tra bod Morgannwg yn drydydd ac yn mynd am le yn rownd yr wyth olaf. Byddai un pwynt yn ddigon i’r Saeson fynd drwodd.

Mae gan y Saeson 18 pwynt, tra bod gan Swydd Gaerloyw 16 pwynt yn yr ail safle.

14 pwynt sydd gan Swydd Gaint, sy’n bedwerydd y tu ôl i Forgannwg.

Yn rownd yr wyth olaf, fe fydd y tîm ar frig y naill dabl yn herio’r tîm sy’n bedwerydd yn y llall, a’r ail a’r trydydd yn y naill gynghrair a’r llall yn herio’i gilydd.

Ar ôl heddiw, fe fydd Morgannwg yn teithio i Hove i herio Sussex nos Fawrth, cyn croesawu Surrey i Gaerdydd nos Wener.

Gemau’r gorffennol

Cyrhaeddodd Morgannwg rownd yr wyth olaf y tymor diwethaf drwy guro Gwlad yr Haf yn Taunton. Un rhediad oedd ynddi ar ôl i Michael Hogan a Marchant de Lange fowlio’n gywir.

Daeth y glaw i roi terfyn ar y gêm yn 2016, ond enillodd Morgannwg yn 2015 ar ôl i Colin Ingram daro 96 oddi ar 62 o belenni.

Carfan Gwlad yr Haf: T Abell, C Anderson, J Davey, S Davies, L Gregory (capten), J Hildreth, J Myburgh, C Overton, J Overton, J Taylor, P Trego, R van der Merwe, M Waller.

Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), D Lloyd, C Meschede, K Carlson, A Donald, G Wagg, C Cooke, R Smith, A Salter, N Selman, J Lawlor, M Hogan, T van der Gugten, L Carey.