Fe fydd tîm criced Morgannwg yn mynd am eu pumed fuddugoliaeth o’r bron yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Wener, 7 o’r gloch), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Hampshire i Erddi Sophia yng Nghaerdydd.

Mae’r Cymry’n bedwerydd yn y tabl, dri phwynt yn unig y tu ôl i Wlad yr Haf ar y brig, ac mae ganddyn nhw gêm mewn llaw drostyn nhw. Byddai buddugoliaeth dros Swydd Hampshire, sy’n seithfed, yn hwb i’w gobeithion o gyrraedd rownd yr wyth olaf am y trydydd tymor yn olynol.

Byddai pum buddugoliaeth o’r bron hefyd yn torri record Morgannwg ar gyfer y gystadleuaeth hon.

Hwb arall i’r Cymry yw’r newyddion bod y chwaraewr amryddawn o’r gogledd, David Lloyd yn holliach ar ôl cyfnod o fis ar y cyrion yn sgil anaf i’w fys yn y gêm yn erbyn Essex yn Chelmsford.

Cyn yr anaf, tarodd e 38 heb fod allan yn erbyn Swydd Hampshire a 33 yn erbyn Sussex.

Gemau’r gorffennol

Swydd Hampshire oedd yn fuddugol, a hynny o 22 rhediad, pan gyfarfu’r ddau dîm yng Nghaerdydd yn y gystadleuaeth hon y tymor diwethaf.

Ar ddechrau’r gystadleuaeth y tymor hwn, llithrodd y Saeson i 32 am saith cyn colli o 63 rhediad – eu colled fwyaf erioed.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2016 hefyd, wrth i’r bowliwr cyflym Michael Hogan gipio pedair wiced am 28. Roedd tair wiced am 22 i Dale Steyn, sydd yng ngharfan Swydd Hampshire y tro hwn. Tarodd Aneurin Donald hanner canred.

Ond y Saeson aeth â hi yng Nghaerdydd yn 2015, a hynny o 21 rhediad wrth i Sean Ervine daro 49 cyn i Chris Wood gipio pedair wiced am 16.

Y Saeson oedd yn fuddugol yn 2014 hefyd, a hynny o chwe rhediad wrth i Darren Sammy gael ei ddal ar y ffin wrth fynd am yr ergyd fuddugol.

Morgannwg: C Ingram (capten), D Lloyd, C Meschede, K Carlson, A Donald, G Wagg, C Cooke, R Smith, A Salter, M Hogan, T van der Gugten.

Swydd Hampshire: D Steyn, C Wood, R Rossouw, S Northeast, J Weatherley, G Berg, R Stevenson, J Vince (capten), L Dawson, T Alsop, Mujeeb Ur Rahman.

Sgorfwrdd