Mae Morgannwg wedi curo Swydd Gaerloyw o ddau rediad ar ddiwedd gêm ugain pelawd gyffrous yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd.

Tarodd Craig Meschede 77 heb fod allan oddi ar 47 o belenni, gan daro pedwar pedwar a phum chwech, wrth i Forgannwg sgorio 201 am chwech, er i Benny Howell gipio tair wiced am 31. Dyma’r pedwerydd tro erioed i Forgannwg sgorio dros 200 mewn batiad ugain pelawd.

Ond roedd eu bowlioyr un mor gywir, wrth i Michael Hogan a Timm van der Gugten gipio tair wiced yr un wrth i’r Saeson orffen ar 199 am naw. Trydedd wiced Michael Hogan oedd ei ganfed mewn gemau ugain pelawd.

Cyfnod clatsio’r Cymry

Dechreuodd Morgannwg yn gadarn ar ôl cael eu gwahodd i fatio, wrth i Aneurin Donald daro chwech a phedwar oddi ar yr ail belawd gan Ryan Higgins.

Parhau i glatsio wnaeth Morgannwg, wrth i Usman Khawaja dynnu AJ Tye am bedwar yn y bedwaredd pelawd, cyn i Aneurin Donald daro chwech, wrth i’r bowliwr ildio 17 rhediad, a Morgannwg yn 37 heb golli wiced.

Tarodd Usman Khawaja chwech oddi ar David Payne cyn i’r bowliwr ddial drwy fowlio’r batiwr llaw chwith am 20, a Morgannwg yn 45 am un.

Tarodd Craig Meschede bedwar oddi ar ei goesau cyn gyrru Benny Howell yn syth ac yna drwy’r cyfar wrth i Forgannwg gyrraedd 60 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Wicedi pwysig

Daeth wiced fawr i’r ymwelwyr wrth i Aneurin Donald gael ei ddal gan Tom Smith oddi ar fowlio Benny Howell am 31, a Morgannwg yn 82 am ddwy ar ddechrau’r degfed pelawd.

Ychwanegodd Kiran Carlson a Craig Meschede 22 cyn i Carlson gael ei ddal gan Michael Klinger wrth daro’r bêl i’r awyr oddi ar fowlio AJ Tye am 15 yn y ddeuddegfed pelawd, a Morgannwg yn 105 am dair.

Brwydro’n ôl

Tarodd Meschede chwech oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Tom Smith yn y drydedd pelawd ar ddeg, ac fe yrrodd Chris Cooke belen gan Benny Howell am bedwar drwy’r cyfar yn y belawd ganlynol cyn i Craig Meschede ei daro am chwech dros ei ben.

Tynnodd Chris Cooke y troellwr Tom Smith am ddau chwech a’i yrru am bedwar drwy’r cyfar yn y bymthegfed pelawd, cyn i Craig Meschede gyrraedd ei hanner canred yn y belawd ganlynol oddi ar 34 o belenni, ar ôl taro tri phedwar a thri chwech.

Wiced ar ôl wiced

Ond fe gollodd Morgannwg eu dwy wiced nesaf o fewn pedair pelen yn yr ail belawd ar bymtheg, wrth i Chris Cooke gael ei ddal gan AJ Tye, cyn i Benny Howell daro coes Graham Wagg o flaen y wiced, a Morgannwg yn 158 am bump.

Roedden nhw’n 159 am chwech pan gafodd Andrew Salter ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio David Payne ar ddechrau’r ddeunawfed pelawd.

Ymunodd Nick Selman yn yr hwyl yn y belawd olaf, wrth i AJ Tye ildio 25 rhediad yn y belawd olaf, a’r batiwr yn ei daro am chwech dros ei ben ar y droed ôl. Daeth pedwar heibiad dros ben y wicedwr cyn i Craig Meschede dynnu pedwar a chwech i orffen y batiad ar 201 m chwech.

Cyfnod clatsio Swydd Gaerloyw

Wrth gwrso 202 i ennill, dechreuodd yr ymwelwyr yn gryf, wrth i Miles Hammond daro dau bedwar oddi ar fowlio Ruaidhri Smith yn y belawd gyntaf, a chwech oddi ar fowlio Timm van der Gugten yn yr ail, wrth i Michael Klinger hefyd daro pedwar, a’r ymwelwyr yn 24-0 ar ôl dwy belawd.

Cafodd Swydd Gaerloyw pum rhediad cosb am drosedd faesu gan Graham Wagg, wrth esgus casglu’r bêl yn lân er mwyn atal y batiwr rhag rhedeg.

Cafodd Miles Hammond gael ei ddal gan Usman Khawaja oddi ar fowlio Michael Hogan am 25 yn y drydedd pelawd, a’r ymwelwyr yn 38 am un.

Clatsiodd yr ymwelwyr oddi ar y chweched pelawd gan Timm van der Gugten i gyrraedd 56 am un, pedwar rhediad y tu ôl i Forgannwg ar yr un adeg.

Pelawd allweddol – a’r Saeson dan bwysau

Roedd y seithfed pelawd yn un allweddol i Forgannwg, wrth i Ruaidhri Smith gipio dwy wiced – Michael Klinger wedi’i ddal gan Michael Hogan ac Ian Cockbain wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar y belen ganlynol, a’r ymwelwyr yn 58 am dair.

Tarodd Benny Howell ddau chwech oddi ar fowlio Ruaidhri Smith yn yr unfed belawd ar ddeg, cyn cael ei fowlio gan Graham Wagg oddi ar belen gynta’r ddeuddegfed, a’r sgôr yn 90 am bedair.

Tarodd Ryan Higgins chwech oddi ar fowlio Craig Meschede yn y drydedd pelawd ar ddeg, cyn i Jack Taylor daro pedwar oddi ar fowlio Graham Wagg yn y bedwaredd ar ddeg.

Ond bu’n rhaid i Graham Wagg adael y cae yn fuan wedyn ar ôl cael ergyd i’w ben.

Dechrau’r diwedd

Daeth wiced fawr arall wrth i Ryan Higgins gael ei ddal gan Aneurin Donald oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 37, i ddod â phartneriaeth o 57 gyda Jack Taylor i ben ar 147 am bump.

Cafodd Kieran Noema-Barnett ei ddal gan Aneurin Donald oddi ar fowlio Michael Hogan, a’r sgôr yn 153 am chwech.

Daeth 15 rhediad oddi ar y ddeunawfed belawd, i adael nod o 27 oddi ar y ddwy olaf. Cafodd Jack Taylor ei fowlio gan Timm van der Gugten am 52 ddechrau’r belawd olaf, a’r Saeson yn 186 am wyth.

Cafodd AJ Tye ei fowlio gan Timm van der Gugten oddi ar belen ola’r ornest, a Morgannwg yn fuddugol o ddau rediad.

Fe fydd Morgannwg yn teithio i Richmond ddydd Sul i herio Middlesex (2.30yp), cyn dychwelyd i Gaerdydd nos Fawrth i wynebu Essex (6.30yh).