Mae is-gapten tîm criced Morgannwg, Chris Cooke o’r farn y gall y sir ymdopi heb rai o’u chwaraewyr mwyaf profiadol yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Maen nhw’n croesawu Swydd Gaerloyw i Erddi Sophia yng Nghaerdydd heno (nos Wener, 6.30yh) heb Joe Burns, sydd wedi dychwelyd adref ar ôl anafu ei gefn.

A bydd yr Awstraliad arall, Usman Khawaja yn dychwelyd adref ddechrau’r wythnos nesaf i gynrychioli tîm ‘A’ Awstralia ar daith yn India.

Roedd y Cymry eisoes heb yr Awstraliad arall, Shaun Marsh, ar ôl iddo fe anafu ei ysgwydd yn gynharach yn y gystadleuaeth.

Ac wrth i Forgannwg guro Surrey nos Fawrth, roedd Chris Cooke yng ngofal y tîm wrth i Colin Ingram gael triniaeth am alergedd yn Llundain.

Ymdopi heb y chwaraewyr profiadol

Dywedodd Chris Cooke: “Roedd yn fuddugoliaeth wych yn erbyn Surrey heb ein chwaraewyr mawr. Fe wnaeth bois eraill roi eu dwylo i fyny a gobeithio bod modd sicrhau nifer o fuddugoliaethau yn olynol nawr a chael momentwm.

“Yn amlwg maen nhw’n golled, ond mae gyda ni garfan dda a dw i’n siŵr y byddwn ni’n iawn.

“Fe wnaethon ni addasu’n eitha’ da ar yr Oval, ry’n ni’n colli Ussie [Usman Khawaja] ddydd Sul ond mae gyda ni nifer o opsiynau.

“Mae gyda ni fois sy’n chwarae criced da felly byddan nhw’n dod i mewn ac achub ar y cyfle.

“Mae gan y bois sy’n chwarae i Forgannwg gyfrifoldeb bob amser. Fydd hi ddim yn wahanol i’r un gêm arall. Dw i’n ei ystyried yn gyfle i chwaraewyr fynd a rhoi eu dwylo i fyny ac ennill gemau heb ein chwaraewyr profiadol, sy’n wych.

“Mae gyda ni nifer o bennau hŷn fel [Graham] Wagg a [Michael] Hogan, felly maen nhw’n cynnig cyngor o hyd, sy’n gwneud fy ngwaith i dipyn yn haws.”

Gemau’r gorffennol

 Mae Morgannwg yn chweched yn y tabl yn dilyn eu buddugoliaeth dros Surrey ar gae’r Oval nos Fawrth.

Mae Swydd Gaerloyw’n gostwng i’r ail safle yn y tabl yn dilyn buddugoliaeth Swydd Gaint dros Essex nos Iau.

Y tymor diwethaf, cipiodd Michael Hogan bum wiced am 17 wrth i Forgannwg gyfyngu’r Saeson i 150 am naw yng Nghaerdydd, ond fe ddaeth y glaw tra bod y Cymry’n 32 am ddwy, ac fe ddaeth yr ornest i ben gyda’r ymwelwyr yn fuddugol o bum rhediad o dan ddull Duckworth-Lewis-Stern.

Yn 2016, y Saeson oedd yn fuddugol o naw wiced diolch i’r troellwr Graeme van Buuren, a gipiodd dair wiced, cyn i Michael Klinger ac Ian Cockbain daro hanner canred yr un.

Daeth y glaw yn 2015 i roi terfyn ar obeithion Morgannwg o gyrraedd rownd yr wyth olaf, wrth iddyn nhw golli o wyth wiced mewn gornest bum pelawd.

Morgannwg: C Cooke (capten), U Khawaja, N Selman, A Donald, K Carlson, C Meschede, G Wagg, A Salter, R Smith, T van der Gugten, M Hogan.

Swydd Gaerloyw: M Klinger (capten), M Hammond, I Cockbain, B Howell, K Noema-Barnett, R Higgins, J Taylor, G Roderick, A Tye, T Smith, D Payne.

Sgorfwrdd