Mae’r gêm griced ugain pelawd rhwng Morgannwg a Swydd Gaint yng Nghaerdydd wedi dod i ben heb i’r un belen gael ei bowlio.

Mae’n golygu bod y ddau dîm yn cael pwynt yr un yn y Vitality Blast.

Roedd yr ornest i fod i ddechrau am 2.30 ond cafodd ei gohirio i ddechrau wrth i’r dyfarnwyr aros i’r glaw gilio.

Ond daeth cadarnhad toc ar ôl 3 o’r gloch nad oedd modd dechrau’r gêm.

Mae Swydd Gaint yn gydradd gyntaf yn y tabl, a Morgannwg yn chweched. Dyma drydedd gêm Swydd Gaint yn olynol i ddod i ben yn gynnar oherwydd y glaw.