Fe fydd tîm criced Morgannwg yn ceisio gwneud yn iawn am y golled yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham ddydd Gwener, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaint i Erddi Sophia yng Nghaerdydd am gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast heddiw (2.30).

Collodd y Cymry o 30 rhediad yn eu gêm ddiwethaf ond byddan nhw’n gobeithio am berfformiad clodwiw arall gan y bowliwr cyflym Ruaidhri Smith, a gipiodd ddwy wiced am 25 cyn taro 18 heb fod allan – er eu bod yn ofer yn y pen draw.

Mae Morgannwg yn chweched yn y gystadleuaeth ar ôl ennill dwy gêm allan o bump, ond mae’r capten Colin Ingram o’r farn y gallan nhw fynd ymlaen i lwyddo yn y gemau sy’n weddill.

“Dw i ddim yn teimlo ein bod ni wedi darganfod ein rhythm eto,” meddai. “Mae angen i chwaraewyr sefyll lan ac ennill y gêm i ni nawr.

“Mae gyda ni ddiwylliant da yn y tîm ac ry’n ni mewn lle da, a’r cyfan sydd ei angen yw i un unigolyn roi ei law i fyny a brwydro i’n cael ni dros y llinell, ac mae cyfle ffres i wneud hynny ddydd Sul.”

Gemau’r gorffennol

Morgannwg oedd yn fuddugol yn y gêm ugain pelawd yng Nghaergaint y tymor diwethaf, ar ôl i Jacques Rudolph ac Aneurin Donald daro hanner canred yr un i sicrhau buddugoliaeth o 25 rhediad.

Y chwaraewr amryddawn David Lloyd oedd wedi serennu yng Nghaerdydd ddwy flynedd yn ôl, wrth daro 97 oddi ar 49 o belenni cyn i Dale Steyn, y bowliwr cyflym o Dde Affrica, gipio pedair wiced am 16 i sichrau buddugoliaeth i Forgannwg o 55 rhediad.

Enillodd Morgannwg o un rhediad yn Tunbridge Wells yn 2015 – eu buddugoliaeth gyntaf erioed dros Swydd Gaint mewn gêm ugain pelawd. Gêm gyfartal gafwyd yng Nghaerdydd yn 2014.

Mae angen tair wiced ar Michael Hogan i gyrraedd 100 o wicedi yn ei yrfa ugain pelawd – mae e wedi cipio 86 o’r rheiny dros Forgannwg.

Mae’r dyfarnwyr yn gobeithio y bydd y gêm yn dechrau’n brydlon am 2.30 os na fydd rhagor o law yn y cyfamser.

Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), J Burns, K Carlson, U Khawaja, A Donald, A Salter, C Cooke, C Meschede, G Wagg, J Lawlor, R Smith, T van der Gugten, M Hogan.

Carfan Swydd Gaint: S Billings (capten), D Bell-Drummond, A Blake, J Denly, S Dickson, C Haggett, H Kuhn, A Milne, H Podmore, Imran Qayyum, M Stoinis, I Thomas, M Claydon.