Mae prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, Robert Croft yn dweud fod ei dîm yn barod ar gyfer y gêm fawr heddiw (2.30) yn erbyn Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yn Cheltenham.

Fe fydd y Cymry’n awyddus i anghofio’r siom o golli o fatiad ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Sussex yn Hove ddechrau’r wythnos.

Ac mae Robert Croft o’r farn fod gan ei dîm obaith o lwyddo yn y gystadleuaeth ugain pelawd, ar ôl ennill dwy allan o bedair gêm hyd yn hyn.

Dywedodd Robert Croft, “Mae’r gystadleuaeth ei hun led y pen ar agor. Mae’n ddyddiau cynnar gyda deg gêm i fynd, felly wnawn ni gymryd un gêm ar y tro a cheisio perfformio ar ein gorau ym mhob gêm ry’n ni’n chwarae ynddi.”

Perfformiadau diweddar a gemau’r gorffennol

Yn y cyfamser, mae Swydd Gaerloyw yn yr ail safle yn y tabl ar ôl ennill tair gêm allan o bump hyd yn hyn.

Ond mae Robert Croft yn disgwyl i’w dîm gystadlu’n gryf ar ôl ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf yn Swydd Gaerloyw – er bod y rheiny ym Mryste.

“Ry’n ni wedi chwarae’n dda yn eu herbyn nhw ac fe wnawn ni eu herio nhw. Maen nhw’n dîm peryglus, a byddwn i’n dweud hynny am bob tîm y byddech chi’n gofyn i fi amdanyn nhw.

“Mae gan bob tîm chwaraewyr sy’n gallu ennill gemau, ac mae gyda ni ein rhai ni. Mae popeth yn dod i lawr i’r diwrnod.”

Mae Morgannwg wedi colli o ddeg wiced ar eu dau ymweliad diwethaf â Cheltenham – yn y Bencampwriaeth a’r T20 – ond mae Robert Croft yn mynnu na fydd y gemau hynny’n cael effaith arnyn nhw y tro hwn.

“Mae’r gystadleuaeth hon yn gwbl wahanol. Mae’n gae da iawn ac ry’n ni wedi cael amserau da yno yn y gorffennol. Mae torf dda yno fel arfer, felly mae’r bois yn edrych ymlaen yn fawr ati.”

Wythnos brysur i Forgannwg

Mae gan Forgannwg wythnos brysur ar y cae, wrth iddyn nhw herio Swydd Gaint yng Nghaerdydd ddydd Sul cyn teithio i’r Oval ddydd Mawrth i herio Surrey.

Mae’n bosib, felly, y bydd Robert Croft yn gwneud sawl newid i’r garfan, gyda chwaraewyr fel Aneurin Donald a Craig Meschede yn dychwelyd ar ôl bod yn chwarae i’r ail dîm.

Ychwanegodd, “Dw i ddim yn disgwyl llawer o newidiadau, ond mae yna chwaraewyr sy’n gwthio am lefydd.”

Carreg filltir i Michael Hogan

Fe all fod gan un o hoelion wyth Morgannwg reswm i ddathlu yr wythnos hon.

Mae angen tair wiced ar y bowliwr cyflym Michael Hogan er mwyn cyrraedd y garreg filltir o 100 wiced mewn gemau ugain pelawd – ac 86 ohonyn nhw i Forgannwg.

Wrth drafod ei gyfraniad i’r sir, dywedodd Robert Croft, “Mae e’n berfformiwr rhagorol i ni ac mae ei berfformiadau y tymor hwn mor belled wedi bod yn wych.

“Mae e’n arwain y ffordd ar y cae ac oddi arno, ac mae e’n ymroi’n llwyr i bob gêm sy’n cael ei chwarae. P’un a yw e’n cael gêm dda neu beidio, mae e bob amser yn ceisio gwella, felly dw i’n hapus iawn drosto fe.”

Swydd Gaerloyw: M Klinger (capten), M Hammond, I Cockbain, G Roderick, K Noema-Barnett, R Higgins, J Taylor, A Tye, T Smith, D Payne, B Howell.

Morgannwg: C Ingram (capten), J Burns, K Carlson, U Khawaja, A Donald, C Cooke, A Salter, G Wagg, R Smith, T van der Gugten, M Hogan

Sgorfwrdd