Mae tîm criced Sussex mewn sefyllfa gref ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg o dan y llifoleuadau yn Hove heddiw (dydd Llun).

Cafodd y Saeson eu bowlio allan am 327 erbyn diwedd y diwrnod cyntaf ddydd Sul, a hynny ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio.

Roedd Sussex yn 266 am naw pan ddaeth Jofra Archer a Danny Briggs at ei gilydd, ac adeiladu partneriaeth o 61 am y wiced olaf i’w cadw yn yr ornest

Un ar ôl y llall

Dechreuodd Sussex yn gryf, wrth i’r agorwyr Luke Wells a Phil Salt (48), sy’n enedigol o Fodelwyddan, adeiladu partneriaeth wiced gyntaf o 73. Tarodd Salt wyth pedwar cyn i Michael Hogan gipio’i wiced wrth roi daliad i’r wicedwr Chris Cooke.

Daeth pum wiced i Forgannwg o fewn ugain pelawd i’w gilydd, wrth i’r Saeson lithro o 114 am un i 171 am chwech wrth i’r bêl binc symud dipyn oddi ar y llain i gynorthwyo’r bowlwyr yn ystod yr ail sesiwn.

Roedd y Saeson yn 114 am un erbyn yr egwyl, ond fe gollon nhw Tom Haines oddi ar belen gynta’r ail sesiwn wrth roi daliad i Nick Selman yn y slip oddi ar fowlio Lukas Carey.

Cyrhaeddodd Luke Wells ei hanner canred oddi ar 100 o belenni cyn i Sussex golli eu trydedd wiced wrth i Harry Finch roi daliad i Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan.

Oddi ar y belen nesaf, bachodd Luke Wells belen fer gan Michael Hogan i Jack Murphy ar ochr y goes, a’r batiwr allan am 71.

Cafodd Michael Burgess ei ollwng yn y slip oddi ar ei belen gyntaf cyn rhoi daliad i’r wicedwr oddi ar belen lac gan Jeremy Lawlor, wrth i’r bowliwr gipio’i wiced gyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.

Ac fe ddaeth ail wiced i Jeremy Lawlor – a chweched i Forgannwg – gyda’r sgôr yn 171, wrth i David Wiese ergydio’n wyllt i’r wicedwr.

Dechrau’r adferiad

Pan ddaeth y capten Ben Brown a Chris Jordan at ei gilydd, ychwanegon nhw 83 at y cyfanswm am y seithfed wiced.

Ond roedd y ddau allan cyn cyrraedd eu hanner canred.

Cafodd Ben Brown ei ddal gan y wicedwr am 49 wrth geisio torri pelen gan y troellwr Andrew Salter, ac roedd Chris Jordan allan am 46 yn y belawd nesaf wrth gael ei fowlio gan y capten Michael Hogan, a’r sgôr yn 254 am wyth.

Cafodd Ollie Robinson ei ddal yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio Timm van der Gugten ar ôl i Forgannwg gymryd y bêl newydd.

Ar ôl ymdrech arwrol gan y pâr olaf i adeiladu partneriaeth allweddol o 61, tarodd Jeremy Lawlor goes Danny Briggs o flaen y wiced am 46 yn y belawd olaf, ac roedd Jofra Archer heb fod allan ar 19.

Cipiodd Michael Hogan bedair wiced am 39 ar gyfradd economi o 1.56 y belawd, ac roedd tair wiced i Jeremy Lawlor am 59.

Fe fydd Morgannwg yn dechrau ar eu batiad cyntaf wrth i’r ail ddiwrnod ddechrau am 2 o’r gloch.

Sgorfwrdd