Mae Joe Burns, batiwr rhyngwladol Awstralia, wedi ymuno â Chlwb Criced Morgannwg am weddill y gystadleuaeth ugain pelawd,  y Vitality Blast. Fe ddaeth i Gymru yn lle ei gydwladwr Shaun Marsh, sydd wedi dychwelyd i’w famwlad am driniaeth ar ei ysgwydd.

Cyn ei gêm gyntaf yn erbyn Gwlad yr Haf yng Ngerddi Sophia heno (nos Wener, Gorffennaf 19), siaradodd Joe Burns â golwg360 am ei wythnos gyntaf yng Nghymru, ei argraffiadau o’r clwb a’r cyfle i chwarae ochr yn ochr â nifer o wynebau cyfarwydd yn nhîm Morgannwg, gan gynnwys ei gyd-chwaraewr yn Queensland, Usman Khawaja.

Joe, croeso i Gymru. Mae pethau wedi symud yn gyflym dros y dyddiau diwethaf. Sut ddigwyddodd y cyfan?

Ro’n i adre’n ymarfer cyn dechrau’r tymor ac yn paratoi ar gyfer haf o griced yn Awstralia, ac fe ddigwyddodd popeth yn gyflym. Ond dyna natur y gêm fodern. Mae chwaraewyr yn cael eu tynnu i mewn o bob cwr o’r byd ac i mewn i wahanol gystadlaethau ar adegau gwahanol, felly dw i jyst yn credu’ch bod chi’n barod i chwarae gydol y flwyddyn.

Yn nhermau syml, ces i alwad gan fy rheolwr yn dweud bod cyfle i ddod i chwarae i Forgannwg. Yn amlwg, dw i wedi cyffroi o gael y cyfle hwnnw. Maen nhw’n griw da o fois i ymuno â nhw ac i chwarae â nhw. Mae cael Ussie [Usman Khawaja] yma hefyd yn creu cyswllt ag Awstralia, ynghyd â nifer o fois eraill o Awstralia sydd yn y tîm, ac roedd hynny wedi gwneud y penderfyniad i ddod yma yn un hawdd iawn.

Beth oeddech chi’n ei wybod am Forgannwg cyn dod i Gymru’r wythnos hon?

Dw i wedi chwarae yma sawl gwaith yn eu herbyn nhw a bob tro wedi’u cael nhw’n dîm anodd i chwarae yn eu herbyn nhw. Roedd hi bob amser yn ymddangos fel bod ganddyn nhw ddiwylliant da oddi ar y cae hefyd. Roedd yn benderfyniad hawdd iawn ymuno â’r sir.

Mae’n gwneud pethau’n haws o lawer cael wyneb cyfarwydd yma hefyd [Usman Khawaja], ac mae’n gwneud pethau’n haws hefyd o ran y criced, a chael rhywun i siarad â fe am yr amodau ac addasiadau i’ch gêm. Mae e’n fy adnabod i’n dda o ran fy ngêm o’r holl griced ry’n ni wedi’i chwarae gyda’n gilydd ’nôl adre’, felly mae’n fater o ddefnyddio’i lygaid e i addasu fy ngêm a chael llwyddiant yn y gwahanol lefydd ry’n ni’n chwarae ynddyn nhw.

Chawsoch chi fawr o amser i baratoi cyn eich gêm gyntaf heno. Sut fydd hynny’n effeithio arnoch chi?

Dyw hi ddim yn rhy ffôl ar gyfer y gemau ugain pelawd, ry’ch chi’n gwylio’r bêl ac yn ei bwrw hi. Ond mae’n syml, wir. Mae’n fater o ddod i arfer â hunaniaeth Morgannwg a sut maen nhw’n chwarae criced ugain pelawd a chyflawni fy rôl yn y tîm.

Yn y gemau ugain pelawd, rhaid i chi fod yn barod am nifer o rolau a dw i ddim yn credu bod fawr o gynllun pendant ar ddechrau’r gêm, ry’ch chi’n gadael i’r gêm fynd rhagddi i raddau. Mae gyda chi syniad o sut ry’ch chi am fynd o’i chwmpas hi ond yn aml iawn, mae’r gêm yn newid yn gyflym a rhaid i chi fod yn barod am bob math o sefyllfaoedd.

Beth yw’ch hoff safle batio chi?

Does gyda fid dim hoff safle batio, wir. Dw i’n agor mewn gemau pêl goch ac yn dod i mewn yng nghanol y rhestr mewn gemau undydd felly dw i’n eitha hyblyg mewn gwahanol rolau ac mae’n rhaid i chi fod yn barod ar gyfer pob math o sefyllfaoedd mewn gemau ugain pelawd.

Mae’r gêm ei hun yn penderfynu beth yw’ch rôl chi a’r sefyllfaoedd ry’ch chi’n cael eich hun ynddyn nhw. Rhaid i chi ganolbwyntio ar baratoi gorau gallwch chi ac i fi, mae’n fater o sicrhau bod y pethau sylfaenol yn barod a chwarae’r gêm o’r fan honno.

Fe gawsoch chi gyfnodau yn y gorffennol gyda Swydd Gaerlŷr a Middlesex. Faint fydd eich profiad blaenorol o griced sirol yn eich helpu y tro hwn?

Des i yma am y tro cyntaf sawl blwyddyn yn ôl gyda Swydd Gaerlŷr. Am wn i, dw i’n defnyddio’r holl brofiadau rhwng y pryd hynny a nawr i gwympo’n ôl arnyn nhw. Mae’n tawelu’ch meddwl pan y’ch chi’n hedfan draw hefyd, o wybod eich bod chi wedi chwarae yn y gwahanol lefydd ry’n ni’n chwarae’r gemau ugain pelawd ynddyn nhw. Ry’ch chi’n gwybod beth sydd o’ch blaen chi, beth fydd angen i chi ei wneud a sut i baratoi a mynd o’i chwmpas hi. Mae’n gwneud pethau’n haws, am wn i, o ran y gwaith paratoi ond mae’n destun cyffro cael y cyfle i fynd allan a chwarae a gobeithio y galla i ddiddanu hefyd.

Sut fydd chwarae yng Nghymru a Lloegr yn wahanol i chwarae yn Awstralia?

Gyda phrofiad, ry’ch chi’n chwarae o dan amodau gwahanol ac yn dysgu’r gwahanol gyfrinachau o ran addasiadau sylfaenol i’ch gêm yn y caeau gwahanol. O ran gemau ugain pelawd yn Lloegr, mae’r caeau’n amrywio mwy nag ydyn nhw yn Awstralia. Yn Awstralia, ry’ch chi’n chwarae mewn llai o gaeau ac mae’r lleiniau i gyd yn eitha’ tebyg i’w gilydd. Rhan o’r apêl o ddod yma, felly, oedd profi fy hun mewn pob math o wahanol sefyllfaoedd a cheisio ffeindio ffordd o fynd o’i chwmpas hi a chael rhywfaint o lwyddiant.

Beth yw’ch argraffiadau chi o Gaerdydd hyd yn hyn?

Dw i bob tro wedi mwynhau dod i Gaerdydd – mae yma bobol wych a chanddyn nhw synnwyr digrifwch arbennig a dw i’n mwynhau hynny. Bob tro dw i wedi chwarae yn erbyn Morgannwg, mae’r diwylliant ymhlith y criw wedi creu argraff arna i. Maen nhw’n hwyliog ac mae hynny’n un o’r cynhwysion ar gyfer llwyddiant mewn gemau ugain pelawd.

Dw i wedi’i chael hi sawl gwaith gan y dorf yma hefyd, felly dw i’n edrych ymlaen at eu cefnogaeth nhw y tro hwn! Mae’r awyrgylch yn wych bob tro ac mae’n gêm fawr yn erbyn Gwlad yr Haf, felly fe ddylai fod yn noson o ddiddanwch.

Beth allwn ni ei ddisgwyl o safbwynt y gêm a’r gwrthwynebwyr heno?

Mae digon o amser ar ôl yn y gystadleuaeth i fwrw ati. Mae’r tîm wedi creu rhywfaint o fomentwm felly fy rôl i yw dod i mewn a bod yn rhan o hynny.

Bydd rhaid i fi edrych eto ar y chwaraewyr sydd ganddyn nhw cyn y gêm ond dw i’n gwybod eu bod nhw’n dîm cryf iawn sy’n hoffi diddanu yn y ffordd maen nhw’n chwarae criced. Mae’r ddau dîm yn gystadleuol a dw i’n siŵr y bydd yna ddigon o adloniant i’r dorf.