Mae disgwyl i’r batiwr llaw dde o Awstralia, Joe Burns ymuno â Chlwb Criced Morgannwg am weddill y gystadleuaeth ugain pelawd, y Vitality Blast.

Daeth cadarnhad y bydd ei gydwladwr, Shaun Marsh allan am weddill y tymor ar ôl anafu ei ysgwydd, ac mae e wedi dychwelyd i’w famwlad am driniaeth.

Fe allai Joe Burns chwarae ei gêm gyntaf dros Forgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd nos Wener, ac fe fydd e’n ymuno â’i gydwladwr Usman Khawaja yn y garfan.

Mae e wedi chwarae mewn 55 o gemau ugain pelawd dros ei wlad, yn ogystal â chwe gêm 50 pelawd a 14 gêm brawf.

Mae Morgannwg wedi ennill dwy gêm ac wedi colli un hyd yn hyn yn y gystadleuaeth ugain pelawd, ac mae ganddyn nhw 11 o gemau’n weddill.

Gyrfa Joe Burns

Morgannwg yw trydedd sir Joe Burns yn y gêm sirol yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn cyfnodau gyda Swydd Gaerlŷr a Middlesex.

Yn ystod ei gyfnod gyda Swydd Gaerlŷr yn 2013 – yn eilydd i’r batiwr o India’r Gorllewin Ramnaresh Sarwan – sgoriodd e 71 mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Morgannwg cyn anafu ei goes.

Sgoriodd e 81 heb fod allan yn erbyn Swydd Durham y tymor hwnnw.

Ac fe gymerodd e le ei gydwladwr Adam Voges yng ngharfan Middlesex yn 2015.

Roedd e eisoes wedi gwneud enw iddo fe ei hun gyda 140 yn ei gêm gyntaf yn y Sheffield Shield dros Queensland yn erbyn De Awstralia yn 2011.

Cafodd ei enwi’n Gricedwr Ifanc Don Bradman y Flwyddyn yn 2013 cyn taro 114 i dîm ‘A’ Awstralia ychydig yn ddiweddarach.

Ymddangosodd e mewn gêm brawf am y tro cyntaf yn erbyn India yn 2014, a sgorio dau hanner canred yn yr ail brawf. Daeth ei ganred cyntaf  yr un flwyddyn yn erbyn Seland Newydd a chael ei enwi’n seren y gêm, cyn sgorio 128 yn erbyn India’r Gorllewin.

Yn 2017, sgoriodd e ganred dwbl dros Queensland yn erbyn De Awstralia yn y Sheffield Shield, a chael ei enwi yn Nhîm Sheffield Shield y Flwyddyn yn 2018.

Fis Mawrth eleni, cafodd ei alw i garfan brawf Awstralia yn erbyn De Affrica pan gafodd David Warner, Cameron Bancroft a Steve Smith eu gwahardd am ymyrryd â’r bêl.