Fe fydd batiwr tramor Morgannwg, Shaun Marsh allan am weddill y tymor ar ôl anafu ei ysgwydd.

Fe gafodd e’r anaf wrth faesu’r bêl ar y ffin yn y gêm ugain pelawd yn erbyn Sussex yng Ngerddi Sophia ddydd Sul.

Cafodd e sgan ar yr ysgwydd, a darganfod iddo anafu a rhwygo cyhyrau. Fe fydd yn teithio adre’ i Awstralia am asesiad pellach ddydd Iau.

Bowliwr allan hefyd

Yn y cyfamser, mae pryderon na fydd y bowliwr cyflym Marchant de Lange ar gael am weddill cystadleuaeth ugain pelawd, y Vitality Blast.

Mae’n dioddef o anaf i linyn y gâr ers peth amser.

Ar ôl gwella rywfaint, fe niweidiodd e’r cyhyr unwaith eto wrth redeg.

Ymateb Morgannwg

Wrth ymateb i anafiadau’r ddau chwaraewr, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris fod colli’r ddau yn “ergyd drom”.

“Roedd Marchant yn un o’n bowlwyr gorau ni yn y gystadleuaeth T20 y tymor diwethaf, ac mae e’n gymeriad sy’n ysbrydoli yn yr ystafell newid.

“Fodd bynnag, mae gyda ni fowlwyr cryf a dw i’n sicr y byddwn ni’n gallu llenwi’r bwlch hwnnw gyda’r chwaraewyr sydd ar gael i ni.

“Fel batiwr sydd wedi profi ei hun ar y llwyfan rhyngwladol, fe fydd bwlch mawr ar ôl Shaun ar frig y rhestr ac rydym ar hyn o bryd yn ystyried ein hopsiynau, ac yn chwilio am opsiynau i’w ddisodli fe am weddill y tymor.”