Mae bowlio gwael wedi costio’n ddrud i Forgannwg wrth i Sussex eu curo o wyth wiced yn eu gêm ugain pelawd gyntaf yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd yn y Vitality Blast y tymor hwn.

Tarodd Luke Wright 88 i osod y seiliau i’r ymwelwyr, cyn i Laurie Evans hefyd gyfrannu 65 heb fod allan gyda’r bat, wrth i’r Saeson ennill gydag wyth pelen yn weddill o’r batiad, ar ôl sgorio 123 oddi ar 12.4 pelawd wrth gwrso’r nod o 174.

Mae’n golygu bod Morgannwg bellach wedi ennill un a cholli un yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Manylion

Ar ôl galw’n gywir a batio, clatsiodd Morgannwg o’r dechrau’n deg, wrth i’r Awstraliaid Usman Khawaja a Shaun Marsh agor y batio. Tarodd y naill ddau bedwar yn yr ail belawd oddi ar fowlio Jofra Archer cyn i’r llall ergydio’r troellwr coes Rashid Khan am bedwar i lawr ochr y goes yn y bedwaredd pelawd.

Collodd y Cymry eu wiced gyntaf ar ddechrau’r bumed pelawd, wrth i Shaun Marsh dynnu’r bêl i gyfeiriad Laurie Evans ar y ffin oddi ar fowlio Jofra Archer. Roedd y batiwr allan am ddeg, a’r sgôr yn 26 am un.

Ond parhau i glatsio wnaeth Usman Khawaja, wrth daro Ollie Robinson am ddau bedwar, cyn i’r capten Colin Ingram daro trydydd pedwar yn y belawd, a Morgannwg yn 47 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Wicedi cyflym ond dal i glatsio

Daeth ail wiced i’r Saeson ar ddiwedd y seithfed pelawd, pan gafodd Usman Khawaja ei ddal gan Tom Bruce oddi ar fowlio’r troellwr Will Beer, ac fe ddaeth y drydedd ar ddiwedd y nawfed pelawd, wrth i Aneurin Donald gael ei ddal gan Phil Salt am bump oddi ar fowlio’r troellwr coes, Rashid Khan, a’r sgôr yn 58 am dair.

Gyda chyfres o ergydion am chwech a phedwar gan Colin Ingram, roedd Morgannwg yn 88 am dair ar ôl deuddeg pelawd ac fe ymunodd David Lloyd yn yr hwyl gyda chyfres o ergydion i’r ffin i arwain Morgannwg i 120 am dair ar ôl pymtheg pelawd.

Rhediadau cyflym

Daeth 53 rhediad oddi ar bum pelawd olaf batiad Morgannwg wrth i’r batwyr barhau i gosbi’r bowlwyr, ac fe gyrhaeddodd Colin Ingram ei hanner canred oddi ar 30 o belenni.

Cafodd David Lloyd ei fowlio gan Rashid Khan am 33 yn yr ail belawd ar bymtheg, a’r bowliwr wedi gorffen gyda dwy wiced am 27.

Ond parhaodd Colin Ingram i glatsio, gan daro Ollie Robinson am chwech a phedwar, cyn taro pedwar oddi ar Jofra Archer, cyn i Chris Cooke ei daro am chwech i ganol y dorf.

Cafodd Colin Ingram ei ollwng yn sgwâr cyn gorffen y batiad heb fod allan ar 81 oddi ar 44 o belenni, ar ôl taro saith pedwar a phedwar chwech, cyn i Chris Cooke daro pedwar oddi ar belen ola’r batiad, wrth i Forgannwg orffen ar 173 am bedair.

Ymateb y Saeson

Dechreuodd y Saeson yn gadarn wrth i Luke Wright daro tri phedwar oddi ar fowlio Timm van der.

Ond wrth i’r pwysau gynyddu’r pen arall, bachodd Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, i gyfeiriad y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan, a’r Saeson yn 27 am un yn bedwaredd pelawd.

Tarodd Luke Wright chwech a phedwar oddi ar fowlio Graham Wagg i arwain ei dîm i 52 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio, ac fe gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 33 o belenni ar ôl taro pum pedwar a dau chwech.

Erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, roedd y Saeson yn 89 am un, 22 o rediadau ar y blaen i Forgannwg ar yr un adeg, ond wedi colli dwy wiced yn llai. Ac roedd Luke Wright yn dal wrth y llain yn parhau i glatsio ergydion i’r ffin oddi ar Colin Ingram a Craig Meschede.

42 o rediadau oddi ar 30 o belenni oedd y nod i’r Saeson yn niwedd y batiad ac fe gafodd Colin Ingram ei daro am 12 oddi ar yr unfed belawd ar bymtheg, wrth i Luke Wright daro chwech enfawr dros ben y bowliwr, cyn taro chwech arall yn sgwâr ar ochr y goes oddi ar Graham Wagg yn y belawd ganlynol.

Daeth y wiced fawr cyn diwedd yr ail belawd ar bymtheg, wrth i Luke Wright dynnu at Aneurin Donald ar y ffin oddi ar fowlio Graham Wagg am 88, a’r Saeson yn 150 am ddwy.

Cyrhaeddodd Laurie Evans ei hanner canred oddi ar 42 o belenni wrth i’w dîm nesáu at y fuddugoliaeth, ac fe orffennodd e heb fod allan ar 65.