Fe darodd Usman Khawaja, batiwr tramor Morgannwg, ganred hanesyddol yn erbyn Swydd Northampton yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw – ei drydydd yn olynol i’r sir.

Does neb wedi sgorio tri chanred mewn tair gêm Bencampwriaeth yn olynol i’r sir o’r blaen, ac mae’n trechu’r ddau ganred gan Javed Miandad yn 1980.

Wrth sgorio 103 yn y batiad cyntaf, fe ychwanegodd at ei 125 yn erbyn Swydd Warwick yn Edgbaston a’i 126 yn erbyn Swydd Derby yn Abertawe.

Fe gyrhaeddodd e’r garreg filltir oddi ar 138 o belenni, gan daro 16 pedwar a dau chwech.

Roedd e allan am 103 yn y pen draw, wrth gael ei ddal ar y ffin gan Richard Levi oddi ar fowlio Brett Hutton, a Morgannwg i gyd allan am 254, 27 o rediadau y tu ôl i sgôr batiad cyntaf yr ymwelwyr.