Mae Morgannwg a Swydd Derby wedi gorffen yn gyfartal ar gae San Helen yn Abertawe, ar ôl i fatiwr yr ymwelwyr, Tony Palladino aros wrth y llain am fwy nag awr a hanner wrth i’w dîm gwrso 325 i ennill ar y diwrnod olaf.

Roedden nhw’n 147 am wyth yn y pen draw, wrth gwrso 325 i ennill, a Palladino heb fod allan ar 30 ar ôl 111 o funudau wrth y llain.

Sesiwn y bore

Partneriaeth o 289 rhwng Usman Khawaja a Kiran Carlson oedd wedi rhoi Morgannwg ar ben ffordd, wrth iddyn nhw dorri sawl record rhyngddyn nhw. Ar ôl mynd â’r sir o 48 am dair i 201 am dair erbyn diwedd y trydydd diwrnod, ychwanegon nhw 107 rhediad yn ystod y bore olaf cyn i’w partneriaeth o 289 ddod i ben.

Roedd y bartneriaeth yn record newydd am bartneriaeth i Forgannwg yn erbyn Swydd Derby – gan guro 235 Mark Cosgrove a Mike Powell yn 2006.

Fe darodd Usman Khawaja 126 oddi ar 167 o belenni, ei ail ganred mewn dwy gêm.

Cyrhaeddodd Kiran Carlson 152 cyn cael ei fowlio gan Tony Palladino. Fe gyrhaeddodd e’r garreg filltir oddi ar 176 o belenni ar ôl taro ugain pedwar.

Ac roedd Khawaja allan yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan Wayne Madsen oddi ar fowlio’r troellwr Alex Hughes am 126.

Cafodd Chris Cooke ei ddal ar y ffin ar ochr y goes gan Ben Slater oddi ar fowlio Hughes am 13, cyn i Andrew Salter gael ei ddal gan Hughes oddi ar fowlio Palladino, oedd wedi cipio pedwar canfed wiced dosbarth cyntaf ei yrfa.

Roedd David Lloyd, oedd yn batio gyda rhedwr, heb fod allan ar 43 a’i bartner Prem Sisodiya heb fod allan ar dri pan gaeodd Morgannwg y batiad ar 403 am saith, i osod nod o 325 i Swydd Derby oddi ar o leiaf 63 o belawdau.

Cwrso am fuddugoliaeth

Dim ond dwywaith erioed mae Swydd Derby wedi cwrso mwy na hynny i ennill – y naill yn erbyn Swydd Northampton yn 1982 a’r llall yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn 1985.

Cafodd yr ymwelwyr y dechrau gwaethaf posib wrth i Harvey Hosein gael ei fowlio gan Michael Hogan heb sgorio, a’r Saeson yn bedwar am un.

Ac fe ddaeth ail wiced yn fuan wedyn, wrth i Andrew Salter daro coes Ben Slater o flaen y wiced am 15, a’r sgôr yn 18 am ddwy.

Ond fe ddaeth Wayne Madsen ac Alex Hughes at ei gilydd ac adeiladu partneriaeth o 58 cyn i Hughes gael ei ddal yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio Michael Hogan am naw, a’r sgôr yn 76 am dair.

Cwympodd y bedwaredd wiced ar 77 wrth i Billy Godleman gael ei ddal gan y capten Michael Hogan oddi ar fowlio Prem Sisodiya yn y belawd gyntaf ar ôl te. Fe gipiodd y troellwr llaw chwith ei ail wiced yn y batiad yn fuan wedyn, wrth i Andrew Salter ddal Wayne Madsen yn sgwâr ar yr ochr agored.

Dechrau’r diwedd i Swydd Derby?

Roedd yr ymwelwyr yn 93 am chwech pan darodd Hogan goes Matthew Critchley o flaen y wiced, ac yn 125 am saith wrth i Gary Wilson golli ei wiced yn yr un modd oddi ar fowlio Lukas Carey am 26.

Cwympodd yr wythfed wiced wrth i Hamidullah Qadri gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan heb sgorio, a’r sgôr yn 128.

… Achubiaeth

Yn ystod ei fatiad a barodd dros awr a hanner, sgoriodd Tony Palladino ei 2,000fed rhediad i’r sir. Dim ond 33 o chwaraewyr eraill yn hanes y sir sydd wedi sgorio 2,000 o rediadau ac wedi cipio 200 o wicedi dosbarth cyntaf i’r sir – does neb wedi cyflawni’r gamp honno ers Graeme Welch yn 2004.

Roedd y pâr olaf, Tony Palladino a Duanne Olivier (6 heb fod allan) wedi batio am 14.3 pelawd i achub y gêm.

Adroddiad diwrnod 3

Adroddiad diwrnod 2

Adroddiad diwrnod 1