Ar ôl dechrau ar 175 am saith, batiodd Andrew Salter a Prem Sisodiya yn gadarn wrth ychwanegu 43 at y cyfanswm cyn i Sisodiya gael ei fowlio allan gan Tony Palladino am 38, a’r sgôr yn 219 am wyth wrth golli’r wiced. Erbyn hynny, roedd y batiwr eisoes wedi goroesi cyfle i’w ddal yn agos at y llain, wrth i Alex Hughes ollwng y bêl.
Ychwanegodd Salter a Lukas Carey 42 at y cyfanswm cyn i Carey gael ei ddal wrth yrru ar yr ochr agored, a’r sgôr wrth i’r nawfed wiced gwympo yn 260.
Daeth y batiad i ben wrth i’r capten Michael Hogan gael ei redeg allan am chwech a’r ddau fatiwr wedi cyrraedd yr un ochr i’r llain. Roedd Andrew Salter dal fewn ar 72 wrth i Forgannwg orffen eu batiad ar 283.
Gorffennodd Tony Palladino gyda phum wiced am 69 – y deuddegfed tro iddo gipio pum wiced mewn batiad, a’r trydydd tro yn erbyn Morgannwg.
Dechrau da i Derby
Pan ddaeth tro Swydd Derby i fatio, dechreuodd eu hagorwyr, Ben Slater a Harvey Hosein yn gadarn gan adeiladu partneriaeth o 90 am y wiced gyntaf. Ond daeth y wiced fawr i Forgannwg pan gafodd Hosein ei fowlio gan y troellwr Andrew Salter am 35, a’r ymwelwyr yn 90 am un.
Cwympodd yr ail wiced o fewn dim o dro, wrth i Ben Slater gael ei ddal gan Prem Sisodiya oddi ar fowlio Salter am 52, ac yntau wedi taro saith pedwar ac un chwech. Adeiladodd Alex Hughes a Wayne Madsen bartneriaeth o 84 cyn i Madsen gael ei ddal gan Kiran Carlson oddi ar fowlio Jack Murphy.
Mae’r bowliwr cyflym llaw chwith wedi troi ei sylw at agor y batio ers rhai tymhorau, a dyma’i wiced gyntaf mewn gêm Bencampwriaeth i Forgannwg.
Erbyn diwedd y dydd, roedd yr ymwelwyr yn 207 am dair.