Fe fydd tîm criced Morgannwg yn dychwelyd i olygfeydd Bae Abertawe yr wythnos hon wrth iddyn nhw groesawu Swydd Derby i gae San Helen ar gyfer gêm Bencampwriaeth, sy’n dechrau ddydd Mercher.

Cafodd Morgannwg siom yn eu gêm undydd ar y cae ddechrau’r mis, wrth iddyn nhw golli o bedair wiced yn erbyn Swydd Hampshire yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.

Y tro hwn, gêm pedwar diwrnod yw’r ail ornest yng Ngŵyl Griced Abertawe a Gorllewin Cymru, a’r cyfan yn bosib diolch i waith caled Orielwyr San Helen, criw o wirfoddolwyr o dan arweiniad eu cadeirydd John Williams.

Yn ddiweddar, cafodd y Cymro Cymraeg ei anrhydeddu gan Forgannwg wrth iddo dderbyn rôl Ymgynghorydd a Llysgennad Anrhydeddus, yn ogystal â chael ei enwi’n Is-Lywydd Oes Anrhydeddus.

Ar drothwy’r gêm, dywedodd John Williams: “Does gan yr un cae allanol arall yn y wlad gymaint o hanes yn perthyn iddo â San Helen yn Abertawe. Mae cymaint o hanes Morgannwg wedi digwydd yn Abertawe. Gallwn i draethu amdano am amser hir!”

Cae hanesyddol

Mae’r cae ar lan y môr yn boblogaidd ymhlith cefnogwyr criced yng Nghymru a Lloegr – a thu hwnt. Dyma leoliad chwech chwech Garry Sobers oddi ar fowlio Malcolm Nash, sydd newydd gyhoeddi hunangofiant Not Only, But Also sy’n adrodd yr hanes.

Malcolm Nash fydd siaradwr gwadd yr Orielwyr nos Wener wrth iddyn nhw gynnal eu cinio blynyddol yn San Helen ar drydedd noson y gêm.

Ychwanegodd John Williams: “Er mai’r chwech chwech yw’r achlysur sy’n cael ei gofio orau, roedd llawer mwy na hynny i yrfa Malcolm, fel y mae teitl ei lyfr yn ei awgrymu. Mae e’n ffodus iawn oherwydd does yna’r un digwyddiad arall yn cael ei gofio cystal â’r chwech chwech!”

Dathlu blynyddoedd o griced

Nid yn unig y chwech chwech ddigwyddodd yn 1968. Yn ogystal, dyma’r flwyddyn y trechodd Morgannwg yr Awstraliaid am yr ail waith mewn pedair blynedd – achlysur y mae John Williams yn ei gofio’n iawn.

“Roedd yn achlysur enwog mae pawb yn ei gofio. Mae’r Awstraliaid yn ei gofio hefyd, ac yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau’r canu ar ôl y gêm, a dyna rywbeth dy’ch chi ddim yn ei weld bob dydd.

“Mae’r holl dimau yn y gorffennol wedi mwynhau dod yma, a mynd i’r Mwmbwls ar ôl diwrnod o griced – mynd i wylio corau meibion, a dw i’n cofio gwneud hynny pan o’n i’n iau.”

Gwyliau criced

Mae gwyliau criced yn boblogaidd o hyd yng Nghymru a Lloegr, nid lleiaf yr un sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon yn Abertawe. Mae’r rhesymau pam eu bod wedi aros yn boblogaidd yn amlwg, meddai John Williams.

“Gofynnwch i unrhyw gefnogwr criced sirol ac maen nhw wrth eu bodd yn cael mynd i gaeau allanol, yn enwedig San Helen lle mae digon o le ar y ffin ar ymyl y cae rygbi i blant gael chwarae eu gemau criced eu hunain.

“Mae’r rhieni wrth eu bodd yn cael dod yma hefyd, a gwasgaru eu blancedi ar y glaswellt. Welwch chi mo hynny mewn stadiwm.”

Morgannwg v Swydd Derby – gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg, sy’n nawfed yn y tabl, yn herio tîm Swydd Derby sy’n chweched.

Dydy’r ddwy sir ddim wedi herio’i gilydd yn y Bencampwriaeth yn Abertawe ers 2003. Bryd hynny, cipiodd prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft chwe wiced am 71 i orfodi’r Saeson i ganlyn ymlaen.

Morgannwg enillodd yr ornest yn y pen draw o fatiad a 70 o rediadau.

Dydy Swydd Derby ddim wedi ennill gêm Bencampwriaeth yn San Helen ers 1983, pan oedden nhw’n fuddugol o ddwy wiced.