Mae Swydd Warwick wedi curo Morgannwg o bedair wiced ar ddiwrnod ola’r gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn Edgbaston.

Tarodd Ian Bell ganred yn y naill fatiad a’r llall wrth i fowlwyr Morgannwg gael eu cosbi ar lain oedd yn cynnig ychydig iawn o gefnogaeth erbyn diwedd y gêm.

Tarodd Bell 106 heb fod allan yn y batiad cyntaf, cyn sgorio 115 heb fod allan yn yr ail.

O safbwynt Morgannwg, fe fydd rhywfaint o gysur i’w gael ym mherfformiad Usman Khawaja, batiwr Awstralia, yn ei gêm gyntaf i’r sir, wrth iddo fe daro 125 i gadw Morgannwg yn y gêm yn eu hail fatiad.

Crynodeb o’r diwrnod olaf

Wrth gwrso 294 i ennill, dechreuodd Swydd Warwick y diwrnod olaf ar 25 heb golli wiced. Roedd Dominic Sibley, ben draw’r llain i Will Rhodes, wedi sgorio 19 pan gafodd ei ddal gan Ruaidhri Smith wrth yrru’r troellwr Andrew Salter ar ochr y goes, a’r sgôr yn 68 am un.

Daeth llwyddiant i Forgannwg oddi ar yr ail belen ar ôl cinio, wrth i Will Rhodes gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar ymyl y bat i roi ail wiced i Salter a’r Saeson yn 119 am ddwy.

Cyrhaeddodd Ian Bell ei hanner canred oddi ar 69 o belenni ychydig yn ddiweddarach, wrth i fowlwyr Morgannwg barhau i frwydro ar lain oedd wedi cynnig ychydig iawn o gymorth iddyn nhw drwy’r bore.

Roedd hi’n anochel o’r fan honno y byddai angen i Forgannwg gipio’i wiced e neu ei bartner Jonathan Trott os oedden nhw am ddod yn agos at fuddugoliaeth. Roedden nhw wedi adeiladu partneriaerth o hanner cant o fewn deg pelawd i gynyddu’r pwysau ar y Cymry.

Dwyn y gêm

Parhau i fynd â’r gêm i ffwrdd oddi wrth Forgannwg wnaethon nhw wrth i Jonathan Trott gyrraedd ei hanner canred oddi ar 82 o belenni ganol y prynhawn, a’r sgôr erbyn hynny’n 208 am ddwy, a’r bartneriaeth yn werth 89. Aeth eu partneriaeth y tu hwnt i gant, a’r tîm erbyn te o fewn 72 rhediad i’r fuddugoliaeth.

Hir yw pob aros ac wrth i Forgannwg gipio un wiced, fe gipion nhw’r ail hefyd.

Erbyn i David Lloyd daro coes Jonathan Trott o flaen y wiced, roedd e wedi sgorio 67 mewn partneriaeth o 113 gydag Ian Bell, a’r tîm yn 232 am dair. Ac fe gafodd Sam Hain ei fowlio gan yr un bowliwr heb sgorio, i adael y Saeson yn 232 am bedair.

Roedd Bell a Tim Ambrose wedi ychwanegu 54 at y cyfanswm pan darodd Andrew Salter goes Ambrose o flaen y wiced am 21, a’r bowliwr yn cipio’i drydedd wiced yn y batiad.

Daeth ei bedwaredd wiced wrth i Keith Barker daro’r bêl i’r awyr i’r maeswr agos Nick Selman, a’r tîm cartref yn 286 am chwech.

Ond daeth y fuddugoliaeth yn y pen draw o bedair wiced, wrth i Ian Bell orffen ar 115 heb fod allan, ond y troellwr Andrew Salter yn gorffen gyda phedair wiced am 80.

Adroddiad: diwrnod 3

Adroddiad: diwrnod 2

Adroddiad: diwrnod 1