Fe fydd tîm criced Morgannwg yn ceisio gorffen cystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn gryf wrth iddyn nhw deithio i’r Oval i herio Swydd Surrey heddiw (2 o’r gloch).

Mae’r Cymry allan o’r gystadleuaeth ar ôl colli chwe gêm allan o saith ond mae gan y Saeson lygedyn o obaith o gyrraedd y rownd nesaf pe baen nhw’n sicrhau buddugoliaeth swmpus.

Yn dilyn y siom o golli yn erbyn Swydd Hampshire ar gae San Helen yn Abertawe dros y penwythnos, mae’r capten Colin Ingram yn awyddus i weld y chwaraewyr yn parhau i frwydro am eu llefydd yn y tîm.

“Mae’n dal i fod yn gêm enfawr i ni. Mae gyda ni lawer o fois yn dysgu’r gêm, bois sydd am berfformio’n dda a chystadlu am lefydd yn y garfan, felly mae tipyn i chwarae amdano fe o hyd.

“O ran agwedd y criw, yn enwedig dros y gemau diwethaf, mae wedi bod yn dda iawn. Gallwch chi weld y gwahaniaeth yn y maesu ac ym mhob agwedd arall.”

Chwaraewyr ifanc

Er bod y gystadleuaeth wedi bod yn un siomedig i Forgannwg o safbwynt y canlyniadau, fe fu’n gyfle i ddatblygu sgiliau’r chwaraewyr ifainc, yn ôl Colin Ingram.

“Mae llawer o’r bois yn newydd i griced 50 pelawd ac ar adegau, fe fu rhai arwyddion addawol.

“Mae Nick Selman wedi dangos ei allu i fod yn agorwr gwych i ni wrth symud ymlaen. Batiodd David Lloyd yn dda yng nghanol y rhestr ac mae bois fel Lukas Carey a Ruaidhri Smith wedi perfformio’n dda gyda’r bêl.

“Ar y cyfan, ry’n ni wedi cael cip ar yr hyn allwn ni fod, ond fe fu’n anodd wrth roi’r cyfan at ei gilydd.

Carfan Swydd Surrey: R Burns (capten), G Batty, S Borthwick, R Clarke, S Curran, T Curran, J Dernbach, B Foakes, W Jacks, M Morkel, O Pope, J Roy, M Stoneman, F van den Bergh

Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), N Selman, A Donald, K Carlson, C Brown, C Cooke, D Lloyd, O Morgan, A Salter, T van der Gugten, L Carey, R Smith, G Wagg

Sgorfwrdd