Mae Morgannwg wedi ennill gêm 50 pelawd am y tro cyntaf y tymor hwn, wrth drechu Swydd Sussex o chwe wiced yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd. Cyn hynny, roedden nhw heb fuddugoliaeth mewn pum gêm.

Tarodd Colin Ingram 95 heb fod allan, ac fe gafodd ei gefnogi gan Kiran Carlson (59 heb fod allan) mewn partneriaeth o 98 oddi ar ddeg pelawd wrth gwrso 278 am y fuddugoliaeth, a hynny gyda deg pelen yn weddill o’r ornest.

Tarodd Aneurin Donald 40 wrth agor y batio i osod y seiliau.

I’r ymwelwyr, tarodd David Wiese 67 a Michael Burgess 58 wrth iddyn nhw sgorio 277 yn eu 50 pelawd, wrth i Timm van der Gugten gipio tair wiced i Forgannwg.

Manylion

Wyth pelawd yn unig gymerodd hi i Forgannwg gipio’u wiced gyntaf ar ôl gwahodd Swydd Sussex i fatio, wrth i Luke Wells gael ei ddal gan y capten Colin Ingram oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 19, a’r ymwelwyr yn 41 am un.

Ac fe ddilynodd Luke Wright yn dynn ar ei sodlau am 41, wrth ddarganfod dwylo’r wicedwr Chris Cooke i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Lukas Carey. Erbyn hynny, roedd y Saeson yn 62 am ddwy ar ôl deg pelawd a hanner.

Roedd Ben Brown a Harry Finch wedi ychwanegu 47 pan gafodd Brown ei redeg allan yn gampus gan Kiran Carlson am 23, a’r Saeson erbyn hynny’n 109 am dair yn y drydedd pelawd ar hugain. Roedden nhw’n 115 am dair erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, cyn colli Harry Finch bedair pelen yn ddiweddarach, wrth i’r troellwr Andrew Salter daro coes y batiwr o flaen y wiced am 26.

Laurie Evans oedd y pumed batiwr allan, wrth iddo gam-ergydio wrth geisio tynnu Timm van der Gugten, a chael ei ddal gan David Lloyd o flaen y wiced ar ochr y goes am naw, a’r ymwelwyr yn 125 am bump.

Cyfnod hesb cyn clatsio

Doedd dim un ergyd i’r ffin am un belawd ar bymtheg cyn i David Wiese dynnu David Lloyd am chwech a tharo pedwar cyn diwedd pelawd rhif 33. Ar ôl hynny, sgoriodd Wiese a Michael Burgess 58 oddi ar naw pelawd wrth i’r bowliwr lled-gyflym David Lloyd a’r troellwr coes Colin Ingram fowlio.

Daeth hanner canred David Wiese oddi ar 49 o belenni, cyn i’w bartner Michael Burgess gyrraedd ei hanner canred yntau oddi ar 39 o belenni, ac roedd e wedi taro un pedwar a thri chwech wrth gyrraedd y nod.

Ond daeth eu partneriaeth o 120 i ben pan wnaeth Michael Burgess yrru’r bêl i’r ochr agored at Colin Ingram oddi ar fowlio Graham Wagg am 58, a’r ymwelwyr yn 245 am chwech. Dilynodd David Wiese yn fuan wedyn, wedi’i ddal yn sgwâr ar yr ochr agored oddi ar belen lac gan Timm van der Gugten am 67, a’r Saeson yn 252 am saith.

Daeth yr wythfed wiced oddi ar belen ola’r batiad, wrth i Jofra Archer gael ei ddal ar ymyl y cylch ar yr ochr agored gan Colin Ingram oddi ar fowlio Graham Wagg am 19, a Swydd Sussex yn 277 am wyth ar ddiwedd y batiad.

Morgannwg yn cwrso

Wrth gwrso 278 i ennill, cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib, wrth i Ishant Sharma fowlio Nick Selman am 15, a’r Cymry’n 21 am un oddi ar 3.4 o belawdau. Ond fe ddaeth achubiaeth drwy Connor Brown ac Aneurin Donald wrth iddyn nhw ychwanegu 69 am yr ail wiced cyn i Donald gael ei ddal ar y ffin ar ochr y goes gan Michael Burgess oddi ar fowlio Chris Jordan am 40.

Cwympodd y drydedd wiced ar 106 yn y pumed pelawd ar hugain, wrth i Connor Brown dynnu at David Wiese oddi ar fowlio Ishant Sharma am 34. Ychwanegodd Colin Ingram a David Lloyd 77 am y bedwaredd wiced cyn i Chris Jordan daro coes Lloyd o flaen y wiced am 20, a Morgannwg yn 183 am bedair ym mhelawd rhif 39.

Cafodd Colin Ingram ei ollwng ar 72 gan David Wiese oddi ar fowlio Danny Briggs cyn i Kiran Carlson ymuno yn yr hwyl a tharo’r troellwr llaw chwith am chwech dros ei ben i adael nod o 70 oddi ar yr wyth pelawd olaf.

Cafodd Carlson ei ollwng ar 37 yn ystod pelawd Ishant Sharma a ildiodd 14 o rediadau i adael nod o 33 oddi ar y 24 pelen olaf.

Cyrhaeddodd Kiran Carlson ei hanner canred oddi ar 37 o belenni, gan gynnwys tri phedwar a phedwar chwech ac fe arhosodd e wrth y llain gyda’i gapten Colin Ingram i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda deg pelen yn weddill.