Mae Swydd Essex wedi trechu Morgannwg o naw wiced yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn Chelmsford, wrth i’r Cymry gael eu cosbi gyda’r bat a’r bêl.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 200 oddi ar 48.3 o belawdau cyn i’r Saeson gyrraedd y nod oddi ar 31.3 o belawdau ar ôl colli un wiced yn unig.

Ar ôl galw’n gywir, roedd Swydd Essex wedi gwahodd Morgannwg i fatio ac roedd y Cymry mewn dyfroedd dyfnion yn gynnar yn y batiad.

Roedden nhw’n 57 am bump o fewn 18 pelawd, ac fe ddaeth yr unig gyfraniadau o werth gan Chris Cooke (59) ac Andrew Salter (43) mewn partneriaeth o 64 am y seithfed wiced, a Connor Brown (31).

Cipiodd Jamie Porter bedair wiced – ei ffigurau Rhestr A gorau erioed – ac roedd tair wiced i Matt Coles wrth iddyn nhw gosbi batwyr Morgannwg.

Cosbi’r bowlwyr

Wrth gwrso 201 i ennill, adeiladodd agorwyr Swydd Essex, Adam Wheater (88) a Varun Chopra (98 heb fod allan) bartneriaeth o 189 am y wiced gyntaf.

Daeth sgôr Varun Chopra oddi ar 84 o belenni, wrth iddo daro naw pedwar a phedwar chwech. Mae e bellach wedi sgorio 445 o rediadau mewn pum batiad.

Y troellwr Andrew Salter gipiodd yr unig wiced i Forgannwg, wrth i Adam Wheater gael ei stympio gan Chris Cooke yn niwedd y batiad.

Fe fydd rhaid i’r Cymro Cymraeg Owen Morgan aros am gyfle arall i chwarae, ar ôl iddo gael ei enwi yn y garfan ond cael ei adael allan o’r tîm.