Mae Morgannwg wedi colli eu pedwaredd gêm o’r bron yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.

Collon nhw o bedair wiced yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint, a’r Saeson yn ennill eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.

Tarodd y capten Joe Denly 150 heb fod allan oddi ar 143 o belenni wrth gwrso nod o 275 i ennill – ac fe enillodd y Saeson gydag 11 o belenni’n weddill o’r ornest. Roedd y capten eisoes wedi cipio pedair wiced am 56 gyda’r bêl.

Roedd sgôr Joe Denly yn record i’r sir mewn gêm 50 pelawd, gan guro 147 Darren Stevens yn erbyn Morgannwg yn Abertawe y tymor diwethaf.

Manylion

Ar ôl galw’n gywir a gwahodd Morgannwg i fatio, tarodd Matt Henry goes Aneurin Donald o flaen y wiced cyn i Nick Selman daro cyfres o ergydion i’r ffin i achub y sefyllfa, a Morgannwg yn 47 am un ar ddiwedd y cyfnod clatsio.

Cyrhaedodd Nick Selman ei hanner canred cyntaf mewn gêm Rhestr A oddi ar 66 o belenni, gan daro chwe phedwar.

Erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, roedd Selman a’r tramorwr Shaun Marsh wedi arwain Morgannwg i 114 am un, ond fe gafodd Marsh ei ddal ar y ffin gan Matt Henry oddi ar fowlio Joe Denly am 45, gan ddod â phartneriaeth o 102 i ben.

Parhaodd Colin Ingram, y capten, i glatsio ond fe gafodd ei ddal ar y ffin yn y pen draw wrth i lu o wicedi ddechrau cwympo.

Collodd Morgannwg eu pum wiced olaf am 64 o rediadau, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 274 gyda thair pelen yn weddill.

Ymateb y Saeson

Wrth ddechrau cwrso, dechrau digon siomedig gafodd y Saeson, wrth i Ruaidhri Smith daro coes Daniel Bell-Drummond o flaen y wiced – er ei bod yn ymddangos iddo daro’r bêl gyda’i fat.

Ar ôl cyrraedd 39 am un yn y cyfnod clatsio, collodd Swydd Gaint yr agorwr Zak Crawley, a gafodd ei fowlio gan Ruaidhri Smith, ac fe ddilynodd Heino Kuhn ychydig ar ôl i’w dîm gyrraedd 100 o rediadau, wrth iddo gael ei redeg allan gan y bowliwr Graham Wagg.

Cafodd Sean Dickson ei ddal oddi ar Graham Wagg i ddod ag Alex Blake i’r llain, ac roedd ei bartneriaeth yntau gyda’i gapten yn ddigon i selio’r fuddugoliaeth, wrth iddyn nhw sgorio 88 oddi ar 12 o belawdau, sy’n record i Swydd Gaint mewn gêm Rhestr A.

Cyrhaedodd Joe Denly ei ganred gydag ergyd am chwech oddi ar y troellwr Andrew Salter, ac fe ychwanegodd Alex Blake 37 at y sgôr cyn cael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten cyn i Darren Stevens gael ei fowlio gan Wagg.