Mae Morgannwg yn parhau’n waglaw yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, ar ôl colli o ddau rediad yn erbyn Swydd Middlesex yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Daeth eu trydedd buddugoliaeth o’r bron er i’r chwaraewr amryddawn o’r gogledd, David Lloyd daro 92 oddi ar 75 o belenni – ei sgôr gorau erioed mewn gêm Rhestr A.

Nod o 305 oedd gan Forgannwg i ennill ar ôl i Swydd Middlesex sgorio 304, diolch i gyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, James Franklin (62 heb fod allan), Eoin Morgan (57) a Nick Gubbins (53).

Cipiodd y capten Colin Ingram a’r bowliwr cyflym Marchant de Lange dair wiced yr un wrth i Forgannwg frwydro’n ôl yn niwedd batiad yr ymwelwyr.

Manylion

Ar ôl galw’n gywir a gwahodd Swydd Middlesex i fatio, cafodd bowlwyr Morganwng eu cosbi gan fatwyr agoriadol yr ymwelwyr, Nick Gubbins a Paul Stirling, wrth iddyn nhw sgorio 59 yn y naw pelawd cyntaf.

Ond wrth i Stirling gael ei ddal yn gampus gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Marchant de Lange am 25, roedd yr ymwelwyr yn 59 am un ar ôl y cyfnod clatsio cyntaf.

Cyrhaeddodd Nick Gubbins ei hanner canred oddi ar 53 o belenni, ond fe gafodd ei ddal ar y ffin wrth yrru’n sgwâr at Aneurin Donald oddi ar fowlio Marchant de Lange, a gipiodd ei ail wiced, a’r ymwelwyr yn 92 am ddwy.

Daeth hanner canred Morgan oddi ar 49 o belenni gydag ergyd i’r ffin drwy’r cyfar.

Morgannwg yn taro’n ôl

Roedd Morgan ac Eskinazi wedi ychwanegu 93 at y cyfanswm pan gwympodd y wiced gyntaf o dair mewn tair pelawd olynol i gapten Morgannwg, Colin Ingram.

Fe gafodd Morgan ei ddal gan Nick Selman wrth dynnu at y ffin am 57, a’r ymwelwyr yn 185 am dair ar ôl 32 pelawd.

Cipiodd y wicedwr Chris Cooke y daliad i waredu Stevie Eskinazi, ac roedd y batiwr ar ei ffordd i’r pafiliwn am 49 a’i dîm yn 195 am bedair. Dilynodd John Simpson yn dynn ar ei sodlau, wedi’i ddal gan y wicedwr Cooke oddi ar fowlio Ingram.

Ychwanegodd James Franklin a Hilton Cartwright 55 cyn i’r ail dynnu Marchant de Lange at ddwylo diogel Aneurin Donald ar y ffin, a’r Saeson yn 256-6.

Aeth Franklin ymlaen i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 46 o belenni ac mewn partneriaeth o 38 gyda Nathan Sowter, llwyddodd e i arwain ei dîm i gyfanswm o 304 am chwech a gorffen heb fod allan ar 62.

Batiad Morgannwg

Wrth ymateb, dechreuodd agorwyr Morgannwg, Aneurin Donald  a Nick Selman yn gadarn a chyrraedd 57 heb golli wiced yn y cyfnod clatsio cyntaf.

Ond cafodd Aneurin Donald ei ddal gan y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio Ravi Patel am 48 yn fuan wedyn, a Morgannwg yn 86 am un.

Roedd Selman allan o fewn dim o dro o dan amgylchiadau amheus, wrth i’r troellwr llaw chwith Ravi Patel daro’i goes o flaen y wiced am 38, a Morgannwg yn 91 am ddwy.

Ond fyddai’r bêl ddim wedi bwrw’r wiced ac fe ddylai’r batiwr fod wedi cael aros wrth y llain.

Ond doedd dim amheuaeth am wiced Shaun Marsh, wrth iddo gael ei ddal gan y troellwr Paul Stirling oddi ar ei fowlio’i hun am chwech, a’r Cymry’n 96 am dair.

Cyrhaeddodd David Lloyd ei hanner canred oddi ar 48 o belenni cyn i’w bartneriaeth gyda Colin Ingram fynd y tu hwnt i gant, ac fe aeth ymlaen i gael ei sgôr gorau erioed mewn gêm Rhestr A.

Aeth Colin Ingram am ergyd fawr a chael ei ddal gan Hilton Cartrwright oddi ar fowlio Ravi Patel am 42, a Morgannwg yn 222 am bedair. Ac fe ddilynodd Chris Cooke yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan Steven Finn oddi ar fowlio Paul Stirling am ddwy, a’r Cymry’n 227 am bump.

Dechrau’r diwedd

Daeth batiad arwrol David Lloyd i ben ar 92, a hynny oddi ar 75 o belenni, wrth iddo gael ei stympio gan John Simpson oddi ar fowlio Nathan Sowter, a Morgannwg yn 251 am chwech.

Roedden nhw’n 268 am saith pan gafodd Andrew Salter ei ddal gan Sowter oddi ar fowlio Tom Helm am bump.

Roedd gwaeth i ddod wrth i Graham Wagg gael ei fowlio gan Steven Finn am 35, a’r Cymry’n 287 am wyth yn y belawd olaf ond un. Cafodd Marchant de Lange ei fowlio gan Tom Helm am ddeg ddechrau’r belawd olaf, a Morgannwg yn 289 am naw.

Ond daeth y gêm i ben gyda Morgannwg yn colli o ddau rediad.