Mae Morgannwg yn dal heb fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London wrth iddyn nhw groesawu Swydd Middlesex i Erddi Sophia heddiw ar gyfer gêm o dan y llifoleuadau (2 o’r gloch).

Mae’r batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald yn dychwelyd i’r garfan ar gyfer y gêm sy’n cael ei darlledu’n fyw ar Sky Sports, a hynny yn lle Jack Murphy.

Y Saeson oedd yn fuddugol o 16 o rediadau yn y gystadleuaeth y tymor diwethaf yn Radlett, flwyddyn ar ôl iddyn nhw guro’r Cymry o 28 o rediadau yng Nghaerdydd diolch i ganred gan gyn-fatiwr Morgannwg, Brendon McCullum.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo’r sir yng Nghaerdydd ers 2014, pan adeiladodd Jacques Rudolph a Jim Allenby bartneriaeth o 136 i sicrhau buddugoliaeth o saith wiced gyda 13.4 o belawdau’n weddill.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2013 hefyd – a hynny gartref ac oddi cartref yn y gystadleuaeth hon.

Mae carfan Swydd Middlesex yn cynnwys nifer o wynebau cyfarwydd, gan gynnwys y Cymro a chyn-fowliwr cyflym Morgannwg, James Harris, a dau arall sydd wedi cynrychioli’r sir, sef James Franklin o Seland Newydd a Tom Helm.

Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), D Lloyd, L Carey, N Selman, A Donald, T Cullen, C Cooke, M Hogan, S Marsh, G Wagg, A Donald, A Salter, M de Lange, T van der Gugten

Carfan Swydd Middlesex: S Finn (capten), T Barber, H Cartwright, S Eskinazi, J Franklin, J Fuller, N Gubbins, J Harris, T Helm, M Holden, E Morgan, R Patel, J Simpson, N Sowter, P Stirling

Sgorfwrdd