Fe fydd Morgannwg yn gobeithio gwneud yn iawn am golli’r gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw, wrth iddyn nhw deithio i Taunton i herio Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London heddiw.

Collodd y Cymry eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw o wyth wiced ddydd Gwener, wrth i’r Saeson gwrso 265 am y fuddugoliaeth.

Mae Ruaidhri Smith wedi’i ychwanegu at y garfan – does dim newid fel arall.

Dywedodd y capten Colin Ingram: “Weithiau pan y’ch chi’n colli’r gêm gyntaf, rhaid i chi roi’r cyfan o’r nelltu’n gyflym.

“Ry’n ni’n mynd yno gyda mwy o nerth ac egni ar drothwy’r gêm oherwydd dydy hi byth yn beth braf coll, felly ry’n ni’n edrych ymlaen at fynd yno.”

Kiran Carlson

Ond mae Morgannwg heb un o’u batwyr mwyaf addawol, Kiran Carlson ar hyn o bryd, wrth iddo droi ei sylw at astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ond fe fydd yn cael ei groesawu’n ôl i’r tîm ar ôl cwblhau ei waith, meddai Colin Ingram.

“Fe fydd Kiran i ffwrdd am ychydig. Mae e’n astudio ar gyfer ei radd ac mae wedi ymroi’n llwyr i hynny, sy’n wych i foi ifanc.

“Ry’n ni i gyd yn ei gefnogi yn ei astudiaethau oherwydd mae bywyd i’w gael ar ôl criced, ond fe fyddwn ni’n gweld ei eisiau fe.”

Carfan Gwlad yr Haf: T Abell (capten), T Banton, G Bartlett, J Davey, S Davies, B Green, T Groenewald, J Hildreth, J Myburgh, C Overton, J Overton, P Trego, R van der Merwe, M Waller

Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), D Lloyd, L Carey, N Selman, T Cullen, J Murphy, M Hogan, S Marsh, G Wagg, A Salter, M de Lange, T van der Gugten, C Cooke, R Smith

Sgorfwrdd