Fydd chwaraewr amryddawn tîm criced Morgannwg, Craig Meschede ddim ar gael ar gyfer y gystadleuaeth 50 pelawd ar ôl rhwygo croth ei goes.

Roedd e’n aelod blaenllaw o’r tîm yn y gystadleuaeth y llynedd, ond dydy e ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth hyd yn hyn y tymor hwn.

Fe gafodd ei anafu wrth fatio i’r ail dîm yn erbyn Swydd Hampshire yr wythnos ddiwethaf.

Y gobaith yw y bydd e ar gael ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd, y Vitality Blast, ym mis Gorffennaf.

Y newyddion da i Forgannwg yw fod disgwyl i’r chwaraewr amryddawn Graham Wagg ddychwelyd i’r garfan ar gyfer y gystadleuaeth 50 pelawd.