Fe wnaeth Swydd Gaerlŷr daro’n ôl ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yn Grace Road.

Mae’r Saeson yn dechrau’r trydydd diwrnod ar y blaen o 132 gyda sgôr o 119 am ddwy.

Tarodd Paul Horton 50, ei drydydd hanner canred y tymor hwn, gan adeiladu partneriaeth o 62 gyda’i bartner agoriadol Michael Carberry cyn i’r glaw ddod.

Roedd y Cymry’n 82-0 ar ddechrau’r dydd, wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Swydd Gaerlŷr o 191.

Batiad Morgannwg

Collodd Morgannwg wiced oddi ar bedwaredd belen y bore, wrth i Jack Murphy ddarganfod dwylo Paul Horton yn y slip oddi ar fowlio Ben Raine.

Dilynodd Shaun Marsh yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan y wicedwr Lewis Hill oddi ar fowlio Varun Aaron, cyn i’r bowliwr fowlio Nick Selman o fewn dim o dro.

Aneurin Donald oedd y batiwr nesaf allan, wedi’i fowlio gan Gavin Griffiths, a’r bowliwr hefyd yn cipio wiced Kiran Carlson wrth i’r gyli Mark Cosgrove, gynt o Forgannwg, ddal y batiwr.

Cafodd Chris Cooke ei fowlio gan yr un bowliwr, cyn i Varun Aaron gipio dwy wiced arall – Marchant de Lange ac Andrew Salter – i orffen gyda phedair wiced am 65.

Ail fatiad y Saeson

Wrth ddechrau ar eu hail fatiad, cafodd y Saeson ddechrau cadarn wrth i Paul Horton a Michael Carberry sgorio 62 rhyngddyn nhw am y wiced gyntaf.

Cafodd Carberry ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Marchant de Lange am 20 cyn i David Lloyd daro coes Paul Horton o flaen y wiced am 50.

Ychwanegodd Mark Cosgrove a Colin Ackermann 43 am y drydedd wiced cyn i’r glaw ddod i roi terfyn ar y chwarae, a’r Saeson yn 119-2.

Sgorfwrdd