Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road.

Cafodd eu bowlwyr ddiwrnod cyntaf llwyddiannus wrth fowlio’r Saeson allan am 191, cyn i’r batwyr gyrraedd 82 heb golled.

Sesiwn y bore

Cipiodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten ddwy wiced mewn dwy belen cyn i Michael Hogan a Marchant de Lange gipio tair wiced yr un, er mai’r Saeson alwodd yn gywir a phenderfynu batio.

Paul Horton oedd y batiwr cyntaf allan, wrth i van der Gugten daro’i goes o flaen y wiced, cyn i Colin Ackermann yrru at Michael Hogan ar yr ochr agored oddi ar y belen nesaf un.

Cafodd Michael Carberry ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan, a bu bron i gyn-fatiwr Morgannwg, Mark Cosgrove gael ei redeg allan gan Aneurin Donald heb sgorio. Ond roedd e allan o fewn dim o dro beth bynnag, wrth i Marchant de Lange daro’i goes o flaen y wiced.

Ateeq Javid oedd y batiwr nesaf allan, wrth gael ei ddal gan y wicedwr oddi ar fowlio’r chwaraewr amryddawn David Lloyd.

Ymateb Morgannwg

Cafodd Ben Raine ei fowlio gan Michael Hogan yn fuan ar ôl yr egwyl cyn i Neil Dexter daro hanner canred wrth geisio achub ei dîm.

Ychwanegodd e a Callum Parkinson 80 am y seithfed wiced cyn i Parkinson yrru i’r slip oddi ar fowlio Michael Hogan, cyn i Parkinson gael ei fowlio gan Marchant de Lange.

Wrth yrru’r troellwr Andrew Salter i’r ffin, cafodd Neil Dexter ei ddal ar ochr y goes gan Nick Selman, a’r Saeson i gyd allan am 191.

Wrth ymateb, tarodd Nick Selman a Jack Murphy 82 oddi ar 24 o belawdau i osod y seiliau.

Sgorfwrdd