Mae batiwr agoriadol ifanc Morgannwg, Jack Murphy wedi cyfaddef ei fod e wedi siomi ei hun a’i gyd-chwaraewyr yn ystod y golled o chwe wiced yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaerdydd.

Fe gariodd ei fat yn y batiad cyntaf cyn taro 54 yn yr ail fatiad, i sicrhau ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed. Ond roedd yn berfformiad cymysg i’r gŵr 22 oed o Sir Benfro, sydd wedi newid o fod yn fowliwr agoriadol i fod yn fatiwr agoriadol dros y tymhorau diwethaf.

Ei sgôr batiad cyntaf o 39 oedd y sgôr isaf ers 96 o flynyddoedd gan fatiwr agoriadol Morgannwg yn cario’i fat (batio trwy gydol y batiad heb golli ei wiced) – wrth i Forgannwg golli eu holl wicedi am 37 rhediad yn unig.

Yn 1922, sgoriodd Tom Morgannwg 13 yn erbyn Swydd Gaerhirfryn  yn Abertawe, a 14 yn erbyn Swydd Nottingham a 22 yn erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd.

Dywedodd Jack Murphy: “Yn anffodus, fe ges i glywed am y record honno wrth i fi ddod oddi ar y cae! Roedd yn ddiwrnod rhyfedd iawn.

“Roedden ni’n credu ein bod ni wedi gwneud y gwaith caled gyda’r bartneriaeth agoriadol, ac wedi ei gwneud hi’n hawdd ar gyfer y bois oedd i ddod i mewn.

“Roedd yn rhyfedd cael batio’r ochr draw. Gobeithio nad oes rhagor o’r rheiny i ddod am weddill y tymor!”

Canmol dylanwad Shaun Marsh

Fe fydd Jack Murphy yn awyddus iawn i anghofio am y profiad negyddol o fatio yng Nghaerdydd wrth iddo geisio ennill ei le yn barhaol ar frig y rhestr fatio.

Ac mae’n canmol dylanwad y batiwr tramor Shaun Marsh wrth iddo’i gynorthwyo i fagu hyder.

“Fe wnes i gadw at fy ngêm arferol o geisio para gyda’r bêl newydd a batio am gyfnod hir, a dyna’r dasg sydd wedi cael ei rhoi i fi.

“Mae batio gyda Shaun Marsh yn help mawr iawn, ac mae’n ei gwneud yn haws o lawer wrth y llain ac yn gwneud i chi deimlo’n dda ac yn bositif am eich gêm.”

Batiodd Jack Murphy am 200 o funudau yn yr ail fatiad wrth daro 54, gan adeiladu partneriaeth o 126 gyda Shaun Marsh.

‘Siom’

Ond mae’n cyfaddef y dylai fod wedi taro canred ar ôl dechrau mor gryf.

“Fe ddylai fod wedi bod yn sgôr tri ffigwr, mewn gwirionedd, nid dim ond yn hanner canred. Ro’n i mewn sefyllfa gref, felly ro’n i’n teimlo fel pe bawn i wedi siomi fy hun a’r tîm.

“Yn sicr, dylwn i fod wedi mynd ymlaen i gael sgôr mawr.

“Fe wnes i drio cadw at fy nghynllun ar gyfer y gêm ond yn anffodus, ro’n i wedi methu ddydd Sadwrn.”

‘Gwybod sut i sgorio canred’

Ond mae Jack Murphy yn mynnu ei fod yn gwybod sut i sgorio canred.

“Dw i wedi ei wneud e droeon o’r blaen, wrth fatio i’r ail dîm, i glybiau… Dw i’n gwybod sut mae ei wneud e a beth sydd ei angen arnoch chi i sgorio canred mawr, felly mae angen tipyn o amynedd a pheidio â newid fy ngêm ryw lawer ar hyn o bryd.

“Gobeithio bod yna [ganred] ar y gorwel. Mae tipyn o newid wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, ond dw i wedi cyffroi ac yn edrych ymlaen.”

Ar ôl curo Swydd Gaerloyw yn y gêm Bencampwriaeth gyntaf ym Mryste a chael gêm gyfartal yn erbyn Swydd Middlesex yn Lord’s, bydd Morgannwg yn gobeithio nad yw’r golled gyntaf yn arwydd o’r hyn sydd i ddod yng ngweddill y tymor.

Fe fydd gan Jack Murphy gyfle arall i greu argraff ddydd Gwener wrth i Forgannwg, sy’n bumed yn ail adran y Bencampwriaeth, deithio i Grace Road i herio Swydd Gaerlŷr, tîm sy’n dal heb fuddugoliaeth y tymor hwn ac sy’n cynnwys cyn-fatiwr agoriadol Morgannwg, Mark Cosgrove.