Mae gêm griced Morgannwg a Swydd Middlesex yn Lord’s wedi gorffen yn gyfartal ar y diwrnod olaf oherwydd y tywydd.

Cafodd rhannau helaeth o’r gêm eu colli oherwydd y glaw, a doedden nhw ddim wedi chwarae ers amser te ar y trydydd diwrnod, pan oedd Morgannwg yn 38 am bedair yn eu batiad cyntaf, wrth ymateb i gyfanswm Swydd Middlesex, 194 i gyd allan.

Tarodd Stevie Eskinazi 94 i’r Saeson, wrth i gapten Morgannwg, Michael Hogan gipio pum wiced am 49. Roedd pedair wiced i’r Iseldirwr Timm van der Gugten am 63 o rediadau.

Wrth i fatwyr Morgannwg ei chael hi’n anodd ar lain Lord’s, cipiodd Tim Murtagh bedair wiced am 12.

Mae Morgannwg wedi ennill wyth pwynt, sy’n golygu eu bod nhw’n ail yn y tabl ar ôl dwy gêm gyda 30 o bwyntiau.

Adroddiad: diwrnod 3

Adroddiad: diwrnod 2

Adroddiad: diwrnod 1