Er bod batwyr Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion ar gae Lord’s, roedd rheswm i chwerthin ar drydydd prynhawn y gêm yn erbyn Swydd Middlesex.

Pan oedd Morgannwg yn 34 am dair ychydig cyn te, cyhoeddodd ceidwad yr uchelseinydd mai “Aneurin Bevan” oedd y batiwr nesaf i’r llain – yn lle batiwr ifanc Morgannwg, Aneurin Donald.

Ond wnaeth y chwerthin ddim para’n hir iawn, wrth i’r batiwr gael ei fowlio gan Tim Murtagh oddi ar ei belen gyntaf, a’r Cymry’n 38 am bedair ar yr egwyl.

Dechrau da

Er bod deuddydd o’r gêm, i bob pwrpas, wedi’u colli i’r glaw, dechreuodd Morgannwg yn gryf ar y trydydd diwrnod, gan fowlio’r Saeson allan am 194. Stevie Eskinazi oedd yr unig gyfrannwr o werth gyda’r bat, wrth iddo sgorio 94 cyn cael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten.

Cipiodd y capten Michael Hogan bum wiced am 49, wrth i’r Iseldirwr van der Gugten gipio pedair am 63.

Ond yr un hen stori oedd hi i fatwyr Morgannwg yn eu batiad cyntaf, wrth iddi gymryd llai na saith pelawd iddyn nhw golli’r wiced gyntaf. Aethon nhw o 17 am un i 23 am ddwy, ac o 34 am dair i 38 am bedair cyn te.

Tim Murtagh sydd wedi cipio’r holl wicedi hyd yn hyn.

Doedd dim rhagor o griced yn bosib ar ôl te, ac fe ddaeth y diwrnod i ben gyda Morgannwg yn 38 am bedair.