Fe fydd Morgannwg yn gobeithio am dywydd gwell yn Lord’s ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Middlesex heddiw.

Dim ond 16.1 o belawdau oedd yn bosib ar y diwrnod cyntaf oherwydd y glaw, ond fe gafodd bowlwyr Morgannwg rywfaint o lwyddiant, serch hynny.

Erbyn i’r glaw roi terfyn ar y chwarae am y diwrnod, roedd y Saeson yn 58 am dair, wrth i gapten Morgannwg, Michael Hogan gipio dwy wiced. Y bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey gipiodd y llall.

Penderfynodd Morgannwg fowlio ac fe dalodd ar ei ganfed yn syth, wrth i’r Saeson golli Max Holden, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Lukas Carey am saith.

Collodd y Saeson Dawid Malan a Sam Robson hefyd – y naill wedi’i fowlio a’r llall wedi’i ddal yn y slip.

Roedd Stevie Eskinazi yn 31 heb fod allan wrth ddychwelyd i’r tîm ar ôl salwch.

Sgorfwrdd