Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi cyflwyno cyfres o fesurau newydd i fynd i’r afael â chyfergyd yn ystod gemau.

Fe fu diogelwch chwaraewyr yn flaenoriaeth ers i fatiwr Awstralia, Philip Hughes farw yn 2014 ar ôl cael ei daro ar ochr ei ben yn ystod gêm.

Am y tro cyntaf erioed, fe fydd hawl gan chwaraewr sy’n dioddef cyfergyd gael ei ddisodli gan eilydd fydd â’r hawl i fatio neu fowlio – yn wahanol i’r deuddegfed dyn traddodiadol, sydd yn gallu maesu yn unig.

Ond fe fydd yn rhaid i fatiwr ddisodli batiwr, a bowliwr ddisodli bowliwr – fydd dim modd cyfnewid y naill am y llall, a bydd rhaid i’r eilydd gael ei gymeradwyo gan y dyfarnwyr neu Swyddog Cyswllt Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Bydd y newidiadau’n dod i rym ar gyfer Pencampwriaeth y Siroedd, cystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, a’r Kia Super League i ferched.

Iechyd a lles chwaraewyr

“Mae’r newid hwn er lles diogelwch a iechyd chwaraewyr,” meddai Dr Nick Peirce, Prif Swyddog Meddygol Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

“Tra nad yw cyfergyd mor gyffredin mewn criced ag ydyw mewn campau cyswllt fel rygbi, mae ein hymchwil wedi dangos cyfartaledd o 15-20 o ddigwyddiadau mewn gemau tîm cyntaf ac ail dîm bob tymor dros y tymhorau diwethaf.

“R’yn ni eisoes wedi cymryd camau yn erbyn hyn drwy sicrhau bod yr helmed yn bodloni safonau gorfodol, a gwella lefelau hyfforddiant i ddyfarnwyr a swyddogion eraill. A chan fod Bwrdd yr ECB wedi cymeradwyo cynnig gan y Pwyllgor Criced, r’yn ni’n mynd cam ymhellach – gyda’r cynnig hwnnw’n adlewyrchu safbwynt cryf y siroedd dosbarth cyntaf.”

Yn ôl y drefn newydd, fe fydd achosion o gyfergyd yn cael eu trin am uchafswm o bum munud ar y cae, a bydd asesiad pellach oddi ar y cae pe bai angen. Bydd y Swyddog Cyswllt yn gwneud penderfyniad wedyn a fydd eilydd yn cael dod i’r cae.