Fe fydd dau dîm criced o Sir Benfro oedd yng nghanol helynt ar ddiwedd y tymor diwethaf, yn herio’i gilydd yn nhrydedd rownd Cwpan Pentrefi Prydain y tymor hwn.

Bydd y gêm fawr yn cael ei chynnal ddydd Sul, Mai 27, wrth i 300 o dimau geisio cyrraedd y rownd derfynol, fydd yn cael ei chynnal ar gae hanesyddol Lord’s yn Llundain ar Fehefin 10.

Roedd hanes y gêm rhwng Caeriw a Chreseli’n newyddion ar draws gwledydd Prydain, wrth iddyn nhw herio’i gilydd am dlws y gynghrair.

Caeodd Caeriw eu batiad ar 18-1 yn ystod gêm ola’r tymor yn erbyn Creseli. Roedd hynny’n golygu nad oedd y targed i Creseli yn ddigon mawr iddyn nhw ennill pwyntiau bonws angenrheidiol er mwyn codi uwchben eu gwrthwynebwyr yn y tabl, a Chaeriw enillodd y gynghrair.

Ar ôl cael ei disgyblu, cafodd Caeriw eu taflu allan o’r brif adran i’r ail adran, ond fe gawson nhw gadw eu teitl fel pencampwyr. Mae hynny’n golygu na fyddan nhw’n wynebu ei gilydd yn y gynghrair.

Cafodd Caeriw ddirwy o £300 a chafodd y capten Brian Hall ei wahardd rhag chwarae ar ddechrau’r tymor sydd i ddod. Doedd Caeriw ddim wedi torri cyfreithiau’r gêm, ond cafodd y capten a’i dîm eu cyhuddo o ymddwyn yn groes i ysbryd criced.