Fe fydd angladd y cyn-gricedwr, gweinyddwr a dadansoddwr criced Radio Cymru, Hugh Davies yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Fe fu farw yn yr ysbyty yng Nghaerdydd ar Ragfyr 2 yn dilyn salwch byr.

Bydd gwasanaeth yn Eglwys yr Holl Saint yn Y Barri am 12 o’r gloch cyn gwasanaeth yn amlosgfa Caerdydd a Morgannwg yn y dref am 1 o’r gloch.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Hugh Davies ei eni ym Mhen-bre yn Sir Gaerfyrddin yn 1932, a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Llanelli lle chwaraeodd e rygbi a chriced, gan ennill cap ysgolion yn y ddwy gamp.

Fe ddaeth i sylw Clwb Criced Morgannwg fel bowliwr cyflym yn fuan ar ôl i’r sir ennill Pencampwriaeth y Siroedd am y tro cyntaf yn 1948, ond fe ymunodd e â’r sir bum mlynedd yn ddiweddarach ar ôl cwblhau ei wasanaeth milwrol gyda’r Awyrlu.

Ymddangosodd mewn gêm dosbarth cyntaf am y tro cyntaf yn 1955, gan agor y bowlio gyda Wilf Wooller.

 

Fe gipiodd ei wiced gyntaf – Frank Lowson – yn ei ail gêm i’r sir yn erbyn Swydd Efrog, a’r batiwr cyntaf iddo ei ddal oedd capten Lloegr, Norman Yardley.

Ond fe ddaeth ei awr fawr ar gae Bramall Lane yn Sheffield ddwy flynedd yn ddiweddarach yn erbyn yr un gwrthwynebwyr, pan gipiodd e chwe wiced am 85 – gan gipio wiced un arall o’r mawrion, Ray Illingworth.

Ond ar ôl anafu ei ben-glin, dim ond naw gêm Bencampwriaeth chwaraeodd e ar ôl 1957 ac fe adawodd y byd criced yn 1960 i fynd yn athro ymarfer corff.

Fe barhaodd i weithio fel hyfforddwr criced, gan ddod yn ymgynghorydd addysg ymarfer corff yn 1982 ac yn ddadansoddwr criced Radio Cymru.

Fe dreuliodd gyfnod yn Gadeirydd ar Glwb Criced Morgannwg, a Chriced Cymru o 2002 i 2011.

Roedd ei fab, Adam, hefyd yn gricedwr gyda Morgannwg ddechrau’r 2000au.

Teyrngedau

 

Adeg ei farwolaeth, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Gwnaeth Hugh gyfraniad pwysig ar y cae ac oddi arno i griced yng Nghymru.

“Ar ôl i’w yrfa fel bowliwr cyflym gyda Morgannwg ddod i ben oherwydd anaf, fe aeth i ddysgu, lle rhannodd ei angerdd a’i frwdfrydedd am y gamp gyda’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr o Gymru.

“Yn fwy diweddar, roedd gwasanaeth Hugh i bwyllgor y clwb yn werthfawr, yn enwedig ar adeg pan oedd Morgannwg wrthi’n datblygu’r stadiwm yng Nghaerdydd ac yn ceisio denu criced rhyngwladol i Gymru.

“Fe wnaeth e helpu i feithrin sgiliau criced ar lawr gwlad yn ystod ei gyfnod yn Gadeirydd ar Griced Cymru.”

 

Ychwanegodd Prif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart fod Hugh Davies wedi “gwasanaeth gyda rhagoriaeth pan sefydlwyd Criced Cymru yn 1997”.

“Drwy gydol y cyfnod hwn, roedd ei angerdd am ddatblygu cricedwyr ifainc ledled Cymru wedi disgleirio ac roedd e’n ddolen gyswllt hanfodol rhwng y gêm ar lefel hamdden a Chlwb Criced Morgannwg oedd mor annwyl ganddo.”